Gwrandewch ar synau byd natur o amgylch y byd drwy wefan Wild Sanctuary (mae’n bosib cael ffeil KML er mwyn gweld y lleoliadau yn Google Earth/Maps).
Tra mod i ar y pwnc, pam fod lluniau lloeren (mewn gwirionedd, lluniau o awyren) Google mor wael ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru? Mae lluniau ansawdd uchel nawr ar gael ar draws Lloegr i gyd, ond dim ond mewn rhai ardaloedd poblog o Gymru, Alban a’r Iwerddon. Mae Google wedi dewis prynu’r lluniau o wahanol ffynhonnellau i greu clytwaith o luniau ond dwi’n gwybod fod nifer o gwmnïau masnachol wedi creu llyfrgell ‘lluniau o’r awyr’ ar gyfer gwledydd Prydain i gyd.
Gan sanddef 13 Medi 2007 - 9:24 am
Cwestiwn da, ond a dweud y gwir mae gan Iwerddon yr un broblem
Y peth sy’n fy nigio fi rhywfaint ydy Google Sky. I ddod o hyd at unrhyw seren mae’n rhaid teipio enw’r seren yn y bocs chwilio (a does dim ond canran fach o sêr y gellir chwilio amdanynt), ac does dim gwybodaeth-bocs-“pop-up” ar gael fel yn achos rhai o’r clystyrau crwn. Ac os ti’n mynd i seren heb ddefnyddio’r bocs chwilio ni fydd ei henw yn ymddangos o gwbl.
Gan Nic Dafis 17 Medi 2007 - 2:56 pm
Dw i wedi llwyddo gweld car fy ffrindiau sy’n byw yng Nghaerdydd, ond mae’r pentre dw i’n byw ynddo fe yng Ngheredigion yn smotyn tywyll mewn ardal werdd.