O dan y ddeddf Rhyddid Gwybodaeth mae’n bosib gofyn am ddogfennau gael ei ryddhau gan yr Archifau Genedlaethol. Dyma ddarn bach diddorol o gofnodion cabinet (Ceidwadol) ym mis Chwefror 1953 o dan Churchill.
Mae’r cofnod yn trafod cynnig i ychwanegu at arfbais swyddogol Cymru, oedd wedi ei ddefnyddio ers 150 mlynedd. Mae barn Churchill (nid ffrind gorau Cymru) yn amlwg – “Odious design expressing nothing but spite, malice, ill-will and monstrosity.”. Cofnodir sylw gan Ll.G. (ie Lloyd George yw hwn, ond Gwilym Lloyd George, mab y cyn brif-weinidog, oedd wedi gadael y blaid Ryddfrydol a symud tuag at y blaid Geidwadol), lle mae’n nodi, yn deg – “We get no recognition in Union – badge or flags“.
Dyw’r cofnodion ddim yn hynod o fanwl ond fis yn ddiweddarach, fe gyhoeddodd y Frenhines y byddai’r geiriau “Y Ddraig Goch Ddyry Cychwyn” yn cael ei ychwanegu i’r arfbais. Er mai baner y Ddraig Goch a ddefnyddiwyd ers 1959 fe barhaodd yr arfbais fel symbol swyddogol y Swyddfa Gymreig o 1964 hyd at sefydlu’r Cynulliad yn 1997.
Gan Vaughan 8 Awst 2007 - 7:57 pm
Mae’r arfbais yn cael ei defnyddio gan Swyddfa Cymru hyd heddiw. Ymateb oedd y llywodraeth wrth gwrs i’r gwalwadau cynnar am senedd i Gymru. Yn yr un degawd pennodwyd y gweinidog “Cymreig” cyntaf a sefydlwyd “Cyngor Cymru a Mynwy”.
Gan dafydd 9 Awst 2007 - 12:04 am
Mae’n dda cael sylw gan rhywun sy’n gwybod yr hanes. Roedd fy wncl yn gweithio gyda Cyngor Cymru a Mynwy, fel dwi’n nodi fan hyn. Mae peth o hanes y cyfnod yna yn cael ei gofnodi yn y cofiant gyhoeddwyd yn ddiweddar am Huw T Edwards.