Mae cyfres newydd o’r rhaglen gomedi gwych, The Mighty Boosh yn dechrau ar ddiwedd Gorffennaf. Mewn arbrawf, fe fydd y BBC yn gwe-ddarlledu y gyfres wythnos o flaen llaw.
Mi fydd e’n ddiddorol gweld pa mor effeithiol yw’r arbrawf – ar hyn o bryd nid y cyfrifiadur yw’r lle gorau i wylio a mwynhau rhaglen, yn enwedig os nad yw ansawdd a maint y llun yr un peth a’r teledu. Ond gyda technoleg yr iMP fe ddylai hyn wella dros y blynyddoedd nesa.
Gan Rhods 11 Gorffennaf 2005 - 4:42 pm
Edrych ‘mlaen at hwn. Cofio sbotio Noel Fielding mewn cystadleuaeth sdandyp ar y teli pan oedd o’n tua 18. Oedd o’n blydi gwych bryd hynny.
Gan dafydd 11 Gorffennaf 2005 - 5:42 pm
Neu jyst edrych yn 18 oedd e? 🙂 Tro cyntaf fi weld e oedd yn 1998 pan ennillodd y Perrier. Dwi ddim yn gwybod beth oedd e’n gwneud cyn hynny heblaw rhyw ddarnau i sianeli lloeren.