Mae Readspeaker yn wasanaeth masnachol sy’n gosod technoleg testun-i-lais mewn ffordd hwylus o fewn gwefan. Mae’n defnyddio meddalwedd Festival a felly yn gallu ‘siarad Cymraeg’ gyda’r llais a ddatblygwyd gan Ganolfan Bedwyr.
Mae Bwrdd yr Iaith newydd lansio hwn ar eu gwefannau (edrychwch am y botwm ‘darllennwch y dudalen’. Er fod y llais Cymraeg yn gwneud ymdrech deg iawn ar ddarllen y testun, mae’n werth cymharu gyda ansawdd a huodledd y llais Saesneg, sydd yn dangos be allwch chi gyflawni gyda fwy o arian ac ymchwil.
Gan Chris 25 Ionawr 2007 - 3:15 pm
Hmm. Beth yw’r Gymraeg am “Exterminate! Exterminate!”?
Gan Johnny R (Maferig anfawrol) 25 Ionawr 2007 - 4:42 pm
os oes fersiwn ‘cofi’ o’r fentre? dim ond un gair ti’n angen wedyn, rhad iawn (c**t)!
Gan Murmur » Y blog cyntaf sy’n siarad Cymraeg 26 Ionawr 2007 - 12:41 pm
[…] Yn hyn o beth, mae’r Bwrdd yn dilyn trywydd Cyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam a Chyngor Sir y Fflint, sydd hefyd wedi lansio gwasanaeth Readspeaker Cymraeg ar eu gwefannau’n ddiweddar. Mae hi wedi bod yn ddiddorol gweld ymateb eraill i’r llais Cymraeg – mae Dafydd wedi cymharu ei ansawdd â’r llais Saesneg a gwneud y pwynt, yn ddigon teg, bod hwnnw’n adlewyrchu blynyddoedd os nad degawdau yn fwy o ymchwil, a llawer mwy o fuddsoddiad hefyd. […]
Gan johnny r 3 Chwefror 2007 - 7:48 pm
Hollol wast o arian ‘cyhoeddus’, pechod y dosbarth ganol. rhowch y pres i ysbyty glan hafren neu i somalia neu rwle. Find a cure for cancer cyn malu cachu gyda fath fentre, rwi’n dalu treth am y fath rwtsh, Morrisons rule!