Mwy o ‘hen newyddion’ am y rhyngrwyd, o Ebrill 1995. Mae’r clip yn hunan-esboniadwy. Mi ddyle fod y plant yma yn y coleg (neu newydd adael) erbyn hyn, rhywun yn eu nabod?
Mwy o ‘hen newyddion’ am y rhyngrwyd, o Ebrill 1995. Mae’r clip yn hunan-esboniadwy. Mi ddyle fod y plant yma yn y coleg (neu newydd adael) erbyn hyn, rhywun yn eu nabod?
Gan Mei 16 Mehefin 2006 - 9:12 am
“Ti di clywed am Internet?”
“Fysa chdi’n hoffi cael un?”
Marian Wyn Jones wedi llawn ymchwilio ei phwnc…
“A ma’r cwbl lot ar y CD ‘ma”
Gan Nic 16 Mehefin 2006 - 11:40 am
Hyfryd!
Gan dafydd 16 Mehefin 2006 - 11:48 am
“They have the internet on computers now?”
Gan Aled 16 Mehefin 2006 - 9:17 pm
Dwin nabod yr ail, wel, gwybod pwy ydi o. Nath o adael chweched dosbarth tua dwy flynedd yn ol. Iwan, neu Sion oedd ei enw..wbath felly.
Gan Mr Gasyth 20 Mehefin 2006 - 4:11 pm
Y peth rhyfedda ydi ei glywed o’n cael ei alw yn ‘internet’. Pryd fathwyd ‘y rhyngrwyd’ ta?
Gan dafydd 20 Mehefin 2006 - 4:24 pm
Roedd ‘rhyngrwyd’ yng Ngeiriadur yr Academi yn 1995, ond wrth gwrs dyw hynna ddim yn golygu y byddai unrhywun yn y cyfryngau wedi ei ddefnyddio am fod y cyfryngau saesneg wedi gwthio’r gair gymaint a roedd rhaid bod yn ‘ddealladwy’ yn y dull Heno-aidd.
Gan Seiriol 24 Mehefin 2006 - 1:08 am
Fy hoff ddarn i o newspeak ydy:
“Does ‘na ddim dwywaith na fyddai “internet” yn deffro chwilfrydedd disgyblion ac yn agor drsyau i wybodaeth dibendraw ym mhob rhan o’r byd.”
Gan Mab Ty Cyngor 24 Mehefin 2006 - 9:57 am
Ma gen i deimlad nad oedd y gohebydd na’r un a holwyd yn llawn ddallt y pwnc. “Mi fasa’n well gen i weld arian yn cael ei wario ar gyfrifiaduron nac ar internet”. Dyddiau diniwed yn Llanrug!