Trychineb Aberfan

Mae’n 60 mlynedd ers trychineb Aberfan, digwyddiad a gyffyrddodd pawb yng Nghymru mewn rhyw ffordd. Ar y pryd roedd fy nhad yn fyfyriwr yn Abertawe. Dyma rhai o’i atgofion:

Fe ddigwyddodd trychineb erchyll Aberfan ar yr unfed ar hugain o Hydref 1966. Fe laddwyd 116 o blant a 28 o oedolion pan lithrodd tomen lo dros Ysgol Gynradd Pantglas. Fe apeliodd yr awdurdodau am wirfoddolwyr, ac fe aeth nifer ohonom ni lan o’r coleg. Fe gawson ni rhaw yr un ar ôl cyrraedd y safle, a’r gwaith a rhoddwyd i ni oedd ymuno a’r dynion oedd yn agor cwteri i arwain y dŵr bant o wyneb y glo. Ond roedd y sefyllfa yn anobeithiol.

Roedd y glaw yn dal i ddod lawr, roedd y niwed wedi ei wneud, a doedd y llu o ddynion oedd yno yn gallu gwneud dim argraff ar y broblem anferth o’n cwmpas. Fe ffindes i mas ar ôl priodi Ann fod ei chwaer Jean, wedi bod yn athrawes yn Ysgol Pantglas, ond wedi gadael ei swydd yno rhyw dair blynedd cyn y ddamwain.

Er i nifer o bobol sôn wrtho i dros y blynyddoedd am yr ardd goffa barchus oedd wedi ei chodi ar safle Ysgol Pantglas, ac am feddau chwaethus y plant yn y fynwent, fedrwn i ddim gwynebu dychwelyd, ac yn wir roedd clywed unrhyw gyfeiriad at y drasiedi yn wewyr llwyr i mi.

Ac yna, un flwyddyn, fe ofynnodd Jean i fynd a hi i Aberfan er mwyn iddi edrych o gwmpas yr ardal lle bu’n byw ac yn dysgu. Ac fe aethon ni i safle’r ysgol, ac i’r fynwent. Does dim geiriau i ddisgrifio’r profiad. Dim ond nodi fod y penillion yma oedd wedi eu sgrifennu ar feddau tri o’r plant bach a gollodd eu bywydau yn cyfleu y cwbwl am y tristwch a’r hiraeth torcalonnus a ddioddefodd eu rhieni.

“The children of Aberfan” gan Peter Denton, CC BY-NC-SA 2.0

Postiwyd y cofnod hwn yn Hanes. Llyfrnodwch y paraddolen.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *


*