Dwi’n edrych ymlaen i wylio Y Gwyll ar S4C, er fod y rhagflas yn llawn “cop-show clichés“. Mae yna gynildeb yn ysgrifennu ac actio y dramau “Scandinavian noir‘ sydd ddim yn amlwg yn nhraddodiad drama teledu Cymraeg.
Ar fater arall, fe gaewyd sianel Clirlun bron flwyddyn yn ôl. Dyma ebost wnes i ddanfon i S4C ddydd Mercher. Mi wna’i roi’r ateb fyny pan ga’i un.
Annwyl S4C,
Dwi’n edrych ymlaen i wylio Y Gwyll pan fydd e’n dechrau wythnos
nesa. Ond fe fydd yn rhaid diodde ei wylio ar y llun gwael arferol
sydd gan S4C ar Freeview (mewn SD).Un o bleserau gwylio rhaglenni drama ‘sinematig’ yw gwylio llun HD o
ansawdd uchel. O ddewis mi fyddai’n well gen i wylio rhaglen mewn HD
os yw ar gael. Mi fydd y BBC yn lansio BBC Four HD y flwyddyn nesa,
efallai mewn pryd i ddarlledu Y Gwyll/Hinterland.Yn eironig felly, ni fydd Y Gwyll yn cael ei weld ar ei orau nes
cael ei ddarlledu ar y BBC. Mae’r bwlch rhwng darpariaeth S4C a’r
prif sianeli eraill yn ymestyn o hyd.Pa bryd felly y bydd gwasanaeth Clic yn darparu lluniau mewn ansawdd
HD?
Diweddariad: 29 Tachwedd 2013
O’r diwedd daeth ymateb gan S4C:
Yn anffodus, roedd angen dileu’r gwasanaeth yma oherwydd ei gost yn sgil toriadau ariannol sylweddol i gyllideb y Sianel.
Rydym nawr yn edrych ar nifer o opsiynnau o ran cynnig lluniau o ansawdd uwch – ond fel y gallwch werthfawrogi, mae cost yn fater sy’n ddylanwadol iawn dros y penderfyniad.
Un peth rydym yn gobeithio gallu ei gynnig yn fuan iawn yw ansawdd uwch ar gyfer fidio ar alw sy’n cynnwys darpariaeth drwy wasanaeth Clic. Mae hyn yn golygu y bydd Cyfradd Ddidau (Bit Rate) yn cael ei gynyddu o’r lefel uchaf ar hyn o bryd, sef 700Kb yr eiliad i 1.8Mb yr eiliad. Rydym yn ffyddiog y bydd hyn yn newid sylweddol fydd yn dod â’n gwasanaeth yn gyfartal â’r hyn sy’n cael ei gynnig gan ddarparwyr mawr eraill.
Yn anffodus fydd hyn ddim yn gwneud Clic yn gyfartal – roedd iPlayer y BBC yn cynnig ffrydiau HD 3.2Mbps (720p) yn 2009. Dwi’n amau fod S4C yn sôn am ffrwd SD gyda cyfradd uwch. Felly unwaith eto mae S4C yn cymryd dau gam ymlaen a un cam yn ôl.
Gan Carl Morris 26 Hydref 2013 - 12:22 am
Mae’n rhaid iddyn nhw ffeindio mwy o arian rhywsut.