Felly, fe ddangoswyd pennod cynta Y Gwyll o’r diwedd ar ôl misoedd o heip. Mae’r ymgyrch farchnata wedi cynnwys cymhariaethau pendant gyda The Killing a chyfresi eraill yn y genre ‘Scandinavian Noir‘. Roedd hyn yn ffôl iawn, iawn – yn bennaf, am ei fod yn codi disgwyliadau. Mae cyfresi ditectif am lofruddiaethau wedi bod ar S4C yn y gorffennol – y pryd hynny fe cymharwyd nhw a chyfresi Seisnig neu Americanaidd gan mai rheiny oedd yn boblogaidd ar y pryd.
Mewn gwirionedd, beth sydd yma yw drama dditectif Gymreig. Dyw hi ddim yn beth da i adolygiad wneud cymhariaethau gyda unrhyw gyfresi arall ond mae’r heip marchnata yn gwneud hyn yn anorfod.
Fel arfer mae’n rhaid i bennod cynta unrhyw gyfres newydd gyflwyno llawer o gymeriadau mewn amser byr. Fe lwyddwyd i wneud hynny heb unrhyw esboniadau hir. Roeddwn i’n meddwl fod ychydig gormod o ddeialog ar rai adegau lle ddylai fod tawelwch yn dweud mwy.
Am rhyw reswm mae’n anodd i ddrama gyfleu gwaith yr heddlu yn digwydd yn naturiol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae sgript Y Gwyll yn rhoi Cymraeg cywir iawn yng nghenau’r cymeriadau. Yn y bennod gynta dyw’r deialog o fewn yr heddlu ddim yn rhedeg yn gwbl llyfn a naturiol i fy nghlust i.
I fi, roedd y ddrama yn gwella wrth weld golygfeydd rhwng rhai o’r cymeriadau ymylol gyda actorion anghyfarwydd, lle roedd cyfathrebu mwy realistig rhywsut.
Er hyn doedd y bennod ddim wedi gwneud i mi falio llawer am unrhyw gymeriad, hyd yn oed y wraig a lofruddiwyd. Mae’n rhaid i ddrama wneud i rywun deimlo rhywbeth am gymeriad – teimlo tosturi, edmygedd neu gasineb.
Un o nodweddion y cyfresi Sgandinafiaidd yw cynildeb y deialog, actio a’r golygfeydd. Dwi ddim yn credu fod hyn yn nodwedd yn y bennod gynta o’r Gwyll. Roeddwn i’n teimlo fel fod yna ruthr i symud rhwng golygfeydd a roedd gormod o doriadau camera o fewn y golygfeydd hynny. Doedd gen i ddim teimlad o densiwn wrth wylio yr awr gynta.
Fe ddaeth y cyffro yn y pum munud ola, gyda Mathias yn cwrso Hywel Maybury allan o’r hen gartref. Mae nhw wedi llwyddo i wneud un peth felly – creu cliffhanger.
I grynhoi mae’n edrych fel drama safonol nid campwaith. Mae gan S4C broblem wrth greu heip eu hunain o gwmpas y gyfres. Mewn byd gyda fideo-ar-alw a’r cyfryngau cymdeithasol mi fyddai’n well gadael i’r gynulleidfa eu hunain greu buzz am unrhyw raglen ond fydd hynny ddim yn digwydd heblaw fod y rhaglen yn un da. Dyna sut ydw i wedi darganfod pob rhaglen drama dwi wedi wylio yn y blynyddoedd diwetha – o The Killing i Breaking Bad.
Mae gan y Cymry Cymraeg dueddiad o or-glodfori unrhyw gynhyrchiad sydd ychydig bach yn well na’r cyffredin – efallai am fod hynny yn rhywbeth mor brin. Fe fydd hi’n ddiddorol gweld ymateb i’r gyfres pan ddangosir y fersiwn saesneg.
Gan Carl Morris 1 Tachwedd 2013 - 1:19 am
Mae marchnata doeth mor mor bwysig i bethau fel hyn. Y peth cyntaf mae pobl yn gweld ydy’r marchnata, neu ganlyniadau’r farchnata. Mae’n rhan o’r profiad. Pan o’n i’n arfer hyrwyddo cerddoriaeth o’n i’n osgoi cymariaethau gyda bandiau eraill yn y datganiadau i’r wasg. Mae’n creu disgwyliadau amhosib. Does dim cyfres sy’n gallu bod yn well fel The Killing na The Killing ei hun. Mae’n amhosib curo The Killing yn ei gategori unigryw ei hun. Mae cymariaethau annisgwyl yn yr adolygiadau yn rhan o’r hwyl wedyn.
Gan Mali 13 Rhagfyr 2013 - 4:52 pm
Cytuno- ac wedi gwylio’r cwbwl nawr. Cymraeg bler fodd bynnag ar adegau a thafodiaith Cwm Tawe fan hyn a fan draw -ee nafu yn lle dolur. Ond yn benna – yn boenus o araf, dim digon o gynnwrf ac ystrydebau fel yr Inspector penstiff a’r ditectif rebelgar yn y cymeriadu. Y peth gorau yw’r tirwedd. Byddai’n neis petai S4C yn arloesi yn hytrach na dilyn y praidd.