Yn 2005, wnes i bostio ffeiliau mp3 oddi ar yr albwm amlgyfrannog “Hei Mr Dj”, oedd yn cynnwys “Breuddwyd” gan Ust.
Nawr, dyma albwm cyfan Ust – “Chwant Seicoleg”, ryddhawyd yn 1990. Recordiwyd y caneuon yma rhwng 1987 a 1990 yn stiwdio y diweddar Les Morrison. Mae’r archif zip isod yn cynnwys 8 cân.
Ust – Chwant Seicoleg [47.3MB]
Gan Nic Dafis 4 Medi 2011 - 8:17 pm
Diolch am hyn. Mae gen i lwyth o gasetiau Cymraeg sy erioed wedi’u rhyddhau ar CD (siwr bod gen ti lwyth a mynydd). Dylwn i fynd ati i ffeindio ffordd o’u digiteiddio, un dydd.
Gan Nic Dafis 4 Medi 2011 - 8:17 pm
Heb sôn am yr holl ffeinyl…
Gan Rhodri ap Dyfrig 4 Medi 2011 - 10:02 pm
Diolch Dafydd, ac am atgoffa fi am y gofnod o 2005. Newydd gael benthyg feinyl i mp3 felly ella rodda i ambell un gen i fyny cyn bo hir.
Gan Rhys 6 Medi 2011 - 3:32 pm
Mi flogiodd Carl Morris, ond do, am gynffon hir yr SRG a’r ffordd nad oedd labeli yn talu sylw i’r gynffon honno. Mae’n eitha posib mai dyma sut mae ei chreu.
Pwy oedd Ust, felly? Aethon nhw mlaen at brosiectau eraill, neu ai un o one-hit wonders y sîn oedden nhw?
Gan Dafydd Tomos 6 Medi 2011 - 3:46 pm
Llais – Rhian Williams
Gitâr – Paul Edwards
Bas – Huw Evans
Allweddell – Llion Barnes
Drymiau – Bryn Roberts
Fe aeth Rhian ymlaen i ffurfio Amledd yn 2004 (mae nhw dal ar MySpace!)