Mae’r Cymry yn enwog am gerddoriaeth a chanu. Efallai fod hi’n addas felly mai Cymro ddyfeisiodd y meicroffôn modern sy’n galluogi ni i drosglwyddo a recordio sain. Dyma un o gampau y gwyddonodd David Edward Hughes (cysylltiad i’r erthygl saesneg ar Wikipedia am fod fwy o fanylion yno) sydd o dras Cymreig er nid yw’n hollol glir lle’i ganwyd.
Fe wnaeth David Hughes lawer o waith arloesol ym myd cyfathrebu drwy wifrau gyda’r telegraff ac arbrofion gyda radio. Yn anffodus doedd ganddo ddim y gallu mathemategol i gofnodi a chyflwyno ei waith felly ni gafodd ei glod haeddiannol am flynyddoedd lawer wedi hynny.
Ychydig iawn o wybodaeth sydd ar gael am y gwyddonydd Cymreig pwysig yma, felly dwi’n falch o weld fod llyfr newydd wedi ei gyhoeddi yn ddiweddar – Before We Went Wireless. Rwy am holi os ydi’r cyhoeddwyr yn America yn fodlon danfon copi i Gymru. Mae’r llyfr ar gael o rhai dosbarthwyr yn Lloegr ond am bris eitha uchel – dros £60.
Mae gan awdur y llyfr gysylltiadau â Chymru hefyd. Mae’n werth gwylio y fideo yma lle mae’r awdur, Ivor Hughes, yn esbonio ychydig am yr ymchwil hirfaith wnaeth e ar gyfer y llyfr.
Gan Huw Waters 21 Mehefin 2011 - 11:02 pm
Yr oedd o Gorwen yn ôl y ffynhonell yma…
http://books.google.co.uk/books?id=0C0CVpGCHpsC&pg=PA119&dq=david+hughes+microphone+welsh&hl=en&ei=vxMBTo7KN9G4hAfMuK3BDQ&sa=X&oi=book_result&ct=result&resnum=6&ved=0CEEQ6AEwBQ#v=onepage&q=david%20hughes%20microphone%20welsh&f=false
Gan Dafydd Tomos 21 Mehefin 2011 - 11:29 pm
Mae’r llyfr newydd yn ‘awgrymu’ ei fod wedi ei eni yng Nghorwen hefyd ond ddim yn ei ddatgan fel ffaith am wn i. Mae’r llyfr yn dy ddolen yn dweud ei fod wedi symud i America yn 5 oed. Mae ei ysgrif goffa o’r Electrician yn 1900 yn dweud ei fod wedi ei eni yn Llundain a symud i America yn 7 oed, sy’n cytuno gyda ffynonnellau arall.
Ta waeth, Cymro oedd e o ran tras a magwraeth. Dwi’n siwr fyddai chwilota yn census a chofnodion eraill yr UDA yn gallu datrys y peth ond does gen i ddim mynediad i rheiny ar hyn o bryd.
Gan Huw Waters 21 Mehefin 2011 - 11:31 pm
Mae ffynonellau eraill yn dweud bod ei dad yn dod o deulu crudd yn y Bala, sy’n gysylltiad cryf.
Newydd sylwi pwy yw’r awdur – ma’n ffrindie da efo’n nhad!
Gan Carl Morris 22 Mehefin 2011 - 1:54 am
O’n i ddim yn gwybod am David Edward Hughes cyn i mi weld un o’r areithiau gorau yn y Cynulliad erioed, sef rhestr o wyddonwyr Cymru gan Phil Williams AC yn 2001 (…wrth gwrs).
Araith
http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-first-assembly/bus-chamber-first-assembly-rop/3b0e38cc0001d71900002cf500000000.pdf?langoption=3&ttl=The%20Record
Yr araith gyda dolenni i Wicipedia
http://quixoticquisling.com/2010/09/gwyddonwyr-o-gymru-rhai-or-uchafbwyntiau/