Fe wnaeth Chris Cope bwynt da ar Twitter, sef fod hi’n anodd dod o hyd i MP3s Cymraeg ar lein. Mae nifer o wasanaethau sy’n werthu cerddoriaeth ar ffurf MP3 a mae rhai yn well na’i gilydd. Mae’n anodd dod o hyd i gerddoriaeth Cymraeg ar rhai gwasanaethau heb wybod enw’r band o flaen llaw.
Mae system gaeëdig ond pwysig iTunes yn enghraifft dda o hyn. Yn ôl beth dwi’n gallu gweld does dim posib i labeli dagio eu caneuon neu albymau gyda iaith.
Dwi wedi bod yn ymchwilio i hyn ers tipyn felly mae’n werth rhannu y wybodaeth dwi wedi casglu yn barod. Mae gwasanaeth Spotify yn arbennig o dda am ei fod yn bosib chwilio yn ôl label. Dwi wedi creu rhestr fer o ddolennau defnyddiol fan hyn.
Dwi’n falch o dderbyn unrhyw wybodaeth ychwanegol am fwy o labeli.
Gan Carl Morris 1 Gorffennaf 2010 - 6:01 pm
Wnes i ddechrau cofrestr fach ar Spotify.
http://open.spotify.com/user/shwmae/playlist/4547NY63ARPWR1xlhSj1z3“
Gan dafydd 1 Gorffennaf 2010 - 6:21 pm
A dyma fy rhestr i ar Spotify (cynnyrch yr holl labeli dwi wedi ddarganfod mor belled) http://open.spotify.com/user/dafydd/playlist/0n5QkrPZxW453u1qY9fwlj