Dewisodd Google lun o Gastell Gaernarfon fel ei logo arbennig ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2010, oedd yn ddewis dadleuol, ond mae nhw’n gwneud fwy o ymdrech gyda’i logos nag yn y gorffennol.
Dyma gasgliad o logos Gŵyl Ddewi o archif Google.
2010
2009
2008
2007
2006
2004/2005
Gan Rhys 2 Mawrth 2010 - 2:46 pm
2008 yw’r gorau yn fy marn i.
2009……crap
Gan Dafydd Tomos 2 Mawrth 2010 - 2:55 pm
Ie o’n i’n mynd i sôn am 2009! Rhywun wedi pigo clip-art o gennin a’i bloncio ar y logo heb unrhyw resymeg. Fe wnaeth Google cynnal cystadleuaeth i blant ar gyfer creu logo i ddydd St Padrig llynedd (ond wedyn mae pencadlys Ewropeaidd Google yn Iwerddon).. Fasen dda gweld cystadleuaeth tebyg yng Nghymru.
Gan Carl Morris 2 Mawrth 2010 - 6:46 pm
Mae symbolau yn bwysig i Gymry.
(Mwy na gwledydd eraill?)
Gan Nic Dafis 11 Mawrth 2010 - 3:36 pm
Cytunaf bod 2009 yw’r gorau. Cyd-ddigwyddiad hapus bod yr “O” yn felyn a chrwn, a’r “L” yn wyrdd ac yn dal.