Llongyfarchiadau i Golwg 360 am ddiweddariad bach i’r wefan a aeth yn fyw toc wedi canol nôs. Mae hyn yn cynnwys porthiant RSS, pum mis ar ôl lansio’r wefan.
Mae yna fan newidiadau eraill fel un o’r pethau yna i newid maint y ffont, sydd ddim yn beth pwysig iawn pan ei fod yn bosib gwneud hynny o fewn y porwr. Ac am y tro cynta mae gyda nhw ffurflen gyswllt – waw! Does dal dim teitlau call ar y tudalennau chwaith.
Fe fydd yn rhaid pendroni beth i wneud gyda gwasanaeth RSS Golwg Arall nawr. Dwi am adael pethau am wythnos neu ddau a fe fyddai’n gweld be wna i o ran ail-gyfeirio yr hen borthiant RSS ac yn y blaen.
Diweddariad: 01:09 – Dyw ei ffeil RSS ddim yn gweithio yn y rhan fwyaf o ddarllenwyr. Ond mae’n gweithio yn Internet Explorer, felly dyna gyd sy’n bwysig. Pam dwi ddim yn synnu?
Gan Carl Morris 13 Tachwedd 2009 - 3:17 am
Mae RSS yn gweithio yn fy Google Reader ar Firefox.
Ond dydy e ddim yn cael erthyglau llawn – un brawddeg crynodeb bob erthygl yn unig.
Gan Nic Dafis 13 Tachwedd 2009 - 7:57 am
Dyw’r RSS ddim yn gweithio ar fy Google Reader i, hefyd ar Firefox. Mac sy ‘da ti, Carl?
Beth yw cyfeiriad y ffrwd? Mae’r peth GetNewsFeed.ashx yn ei guddio.
Gan Carl Morris 13 Tachwedd 2009 - 12:43 pm
Dw i’n defnyddio WinXP ar peiriant hwn. Mae e dal yn gweithio gyda
http://www.golwg360.com/RSS/GetNewsFeed.ashx
Ro’n i’n clicio dolen ar y top, dydy Firefox ddim yn ffeindio porthiant awtomatig yn y bar cyfeiriad.
Gan Dafydd Tomos 13 Tachwedd 2009 - 1:08 pm
Dyw porthiant RSS Golwg 360 ddim yn rhoi dolennau gyda URL llawn – a mae nhw yn mynd i’r hen gyfeiriadau hefyd. Mae ganddyn nhw ddau fformat o URL ar gyfer storiau nawr.
Mae Golwg Arall yn gweithio eto ac yn mynd i’r cyfeiriadau cywir!