Dwi’n sylwi fod Golwg 360 wedi ei nodi fel ‘beta’ nawr a fod y dylunio wedi ei addasu yn agosach i fy awgrym i. Ond allwch chi ddim gwneud llawer o welliannau i’r wefan fel mae ar hyn o bryd – mae angen sgrapio’r cynllun yma a chyflogi dylunydd proffesiynol i roi ‘golwg’ newydd cyfoes i’r wefan.
Mae’r cwestiwn yn codi felly.. pam lansio gwefan oedd ddim wedi ei orffen a chreu gymaint o heip, hysbysebu ar fysiau ac yn blaen? Mae Golwg Newydd Cyf wedi dangos nad oedd ganddyn nhw unrhyw syniad sut i greu gwefan dda a mae nhw nawr yn dibynnu ar awgrymiadau darllenwyr ar beth i wneud.
Mi fasen i a nifer o bobl eraill yn y diwydiant cyfryngau newydd wedi bod yn hapus i brofi fersiynau cynnar o’r wefan er mwyn cynnig awgrymiadau a syniadau ar gyfer y dylunio, technoleg a chynnwys y wefan. Mi fase pawb sydd eisiau gweld y wefan yn llwyddo wedi bod yn fodlon rhoi y fath ymgynghoriad am ddim dwi’n siwr. Dwi ddim yn siwr faint fase hynny wedi ei gyflawni gan mod i’n dechrau amau pwy adeiladodd y wefan ac os mae rhywun yn Tinopolis wnaeth neu a gafodd ei raglennu yn rhad gan rywun yn India?
Ond gwell peidio cwyno gormod, mae nhw wedi bod yn destun sbort am amaturiaeth ei prosiect ond dwi’n siwr y bydd cyfarwyddwyr cwmni Golwg Newydd wedi dysgu’r wers. Dwi’n byw mewn gobaith.
Gan Idris Bengoch 25 Mai 2009 - 12:07 am
Daro, ti o ‘mlaen i eto…
Mae’n amlwg ein bod ni’n dau’n meddwl yn go debyg i’n gilydd am amryw bethau gwahanol:
http://cachu360.com/2009/05/arian-cyhoeddus-golwg-360-i-india/
Ti dipyn mwy positif na fi am bethe, serch hynny…