Wrth gerdded heibio’r Amgueddfa Genedlaethol heno fe glywes i ddyn yn gweiddi ar draws y ffordd o’i gar – “Hey!“. Gerddes i ‘mlan am ychydig (mae yna nytyrs o gwmpas) ond redodd e draw ata’i a gweiddi “Oi, mate!“. Ar ôl i fi droi rownd, gofynnodd ‘e os o’n i’n gwybod lle oedd y CIA. Wnes i ddyfalu (yn gywir) mai gofyn am gyfarwyddiadau teithio oedd ‘e a nid cwestiynu fy ngwybodaeth ddaearyddol o ganolfannau adloniant y brifddinas.
Yr unig beth oedd i’n gallu dweud oedd “Umm, yes, it’s in that direction“, a phwyntio fy mys yn fras i’r cyfeiriad lle roeddwn i’n eitha siwr fod y CIA yn bodoli. Mae hynny’n hollol pathetig.
Wnes i ddweud wrth y dyn mod i ddim yn hollol siwr sut i gyrraedd yna ond fydde’n well dilyn y ffordd i ganol y ddinas a holi eto. Ar ôl cerdded i ffwrdd wnes i ddechrau pendroni pa ffordd oedd angen iddo fynd ac wrth roedd e’n reit syml. Mynd i’r chwith yn y gyffordd a mynd tuag at Ffordd Casnewydd, a wedyn troi i’r dde cyn y bont, mynd lawr heibio’r orsaf drenau a troi i’r chwith ar y gyffordd nesaf. Can’t miss it. Wrth gwrs roedd e’n hawdd i weithio hynny allan pum munud wedyn.
Pam fod pobl mewn ceir o hyd yn gofyn i mi roi cyfarwyddiadau? Dwi ddim yn gyrru, dwi byth yn cofio enwau strydoedd a does gen i ddim llawer o ddealltwriaeth o sut i roi cyfarwyddiadau, hyd yn oed os oeddwn i’n gwybod y ffordd.
Mae yna fathodynnau ar gael sy’n dangos i gwsmeriaid fod rhywun yn gallu siarad Cymraeg – efallai fod hi’n syniad creu bathodyn i rybuddio gyrrwyr ceir – “Sori, ond fi’n iwsles yn rhoi cyfarwyddiadau, peidiwch a gofyn i fi byt”.