Ers tro nawr ‘wi wedi gweld fan yn mynd o gwmpas Caerdydd gyda’r arwydd ‘Brechdanau Cymraeg’ ar ei ochr. Heddiw weles i’r gyrrwr yn tynnu mewn i brif adeilad Prifysgol Caerdydd, felly es i draw a gofyn iddo:
“Beth yw’r brechdanau Cymraeg ‘ma ‘te, mêt?”
“Sorry?”
“Brechdanau? Pwy yw’r cwmni?”
“Oh, breckdano, the sign on the van? Sorry, don’t speak Welsh. Yeah, it’s the boss’s idea to drum up some business, like”.
“Oh right, do you know it means ‘Welsh-speaking sarnies’?”
“Yeah, that’s it. Pretty special sandwiches, these are.”
“What do you mean?”
Fe gymrodd un o’r brechdanau o’r blwch yng nghefn y fan a’i gynnig i fi.
“There you go, do you wanna buy one?”
“Looks alright…”, wedes i ar ôl ryw olwg cloi ar y frechdan.
“Give ‘im a squeeze”, medde’r dyn.
Wasges i’r frechdan yn garcus. Daeth llais rhywle o ganol y frechdan.
“Shw mae! Rwy’n frechdan wedi ei wneud gyda tafell o fara gwenith cyflawn a’i lenwi gyda cig cyw iâr, tomato, letys a mayonnaise. Rwy’n cynnwys tri chan calori. Dwi’n flasus, bwytwch fi!”
“Great innit!”
“Yes, very clever!”, medde fi, “But isn’t it easier just to print labels?”
“Well it’s the high-tech way, the boss says. We got a grant to do it, see?”
Dwi ddim yn gwybod sut mae nhw wedi llwyddo i gael brechdan i siarad Cymraeg – er wrth gwrs rydyn ni gyd yn gyfarwydd a’r rhai sy’n siarad Saesneg a Ffrangeg.
Ie wir – brechdanau Cymraeg. Be’ nesa?
Gan Simon Dyda 30 Ionawr 2009 - 1:24 am
Syniad diddorol ‘te. Oes dewis acen?
Gan Rhys 30 Ionawr 2009 - 11:07 am
Yn Smoerfield, mae posib prynu caws Cymreig, ond sydd wedi ei wneud â llefrith Cymraeg.
Gan Huw Waters 31 Ionawr 2009 - 1:25 am
Ma brechdanau ‘Brechdanau Cymraeg’ wedi bod ar gael yng nghaffiau Prifysgol Caerdydd ers sawl blwyddyn rŵan. Mae’r cwmni’n hanu o Gasnewydd.