O’n i’n chwilio Google am bethau ar hap i wneud a Chaerdydd a des i ar draws lluniau 360° o Gaerdydd (dim byd newydd ond mae rhain yn rhai neis a wedi ei tynnu yn ddiweddar). Dyma lun o Heol y Brodyr Llwydion, lle dwi’n gweithio a mae dolenni i lefydd eraill yn y ddinas.
Ond i gyfuno gyda pwnc arall cyfredol, sef Scymraeg, sbotiwch yr arwydd anghywir yn y llun!
Gan Nic Dafis 29 Hydref 2008 - 11:37 am
“eiddio”
Oes gwobor?
Ro’n i’n arfer gweithio fan ‘na hefyd, yn siop yr hen siop Oriel.
Gan dafydd 29 Hydref 2008 - 11:49 am
Roedd gen i fet gyda fy hun bydde ti’n sôn am Oriel, Nic 🙂 O’n i mewn yna yn aml fy hun, fel arfer yn pori drwy’r hen feinyl/tapiau.