O’n i’n drist iawn i glywed fod Geoffrey Perkins wedi marw mewn damwain car yn Llundain. Roedd ei waith ar y gyfres radio Hitchiker’s Guide yn esiampl perffaith o sut i gynhyrchu drama fodern ar y radio, ac yn torri tir newydd o ran cyfuno cerddoriaeth ac effeithiau sain gyda’r deialog. Bu farw Douglas Adams yn llawer rhy ifanc a mi fydd marwolaeth cynnar Geoffrey Perkins yn golled mawr i fyd comedi hefyd.
Gan Dai Bevan 31 Awst 2008 - 11:45 am
Colled mawr. Os gei di gyfle, gwranda ar “radio Active” – sgrifennwyd gan GP ac Angus Deaton yn y saithdegau hwyr/80au. Arbennig.
Newydd glywed y newyddion, yn teimlo’n pissed off. Pobl da, talentog yn marw…..