Mae Gordon Brown wedi lansio gwefan newydd i 10, Stryd Downing. Mae’n llawn o ddanteision gwe-2.0 yn y dull ffasiynol, a mae’n debyg fod nhw wedi cael ychydig o drafferth yn fuan ar ôl y lansiad.
Beth sy’n ddiddorol yw’r faith fod nhw wedi rhoi ‘BETA’ ar y wefan, sy’n golygu yffach o ddim byd mewn gwirionedd, heblaw falle nad ydyn nhw wedi profi e ddigon. Mi fyddai’n bosib dweud fod arweinyddiaeth Brown o’r llywodraeth yn dal mewn ‘beta’ neu ar brawf hefyd – mae nhw’n dal i ganfod gwallau yn y ‘rhaglen’.
Mae gwallau o’r fath mewn meddalwedd yn dangos diffyg cynllunio o flaen llaw, neu diffyg profiad o wneud y gwaith. Mi fyddai meddalwedd sydd wedi ei ddatblygu dros gyfnod o 11 mlynedd yn llawn o broblemau cudd gyda rhywbeth i lenwi’r craciau dros dro. Yn aml, os yw’n ormod o waith i atgyweirio’r meddalwedd, mae’n haws dechrau o’r dechrau ac efallai dod a rhaglennwr arall fewn i gael golwg o’r newydd ar y gwaith.
Gan Rhpdri 13 Awst 2008 - 9:35 am
Hei Daf, braf dy weld di nôl. Ma pethau’n dlawd ar flogio Cymraeg y dyddia hyn.
Ti di gweld stwff Johnny R ar YouTube. Ma’n swnio fel taw nid rhaglenni plant fydd yn cymeryd lle darllediadau o’r cynulliad ar S4C2 yn y dyfodol agos ond Johnny ei hun…http://uk.youtube.com/watch?v=I1O0DiRyNns
joio!!
Gan Rhys 13 Awst 2008 - 10:17 am
A does dal dim dolen at y tudalennau Cymraeg – er dyna least of his worries, y creadur iddo fo.
Gan dafydd 13 Awst 2008 - 10:40 am
Helo ddarllenwyr ffyddlon. Nwdls, dwi’n meddwl weles i ti yn y babell Gelf a Chrefft gyda’r bychan. O’n i’n siarad a rhywun felly wnes i ddim cael cyfle i ddweud helo.
Mae’n ddiddorol nodi fod gwefan rhif 10 wedi ei adeiladu ar WordPress.
Mae ‘na ffilmiau byr gan Johnny R yn disgyn drwy’r blwch post bob hyn a hyn, felly mi fydd rhaid i mi sgrifennu cofnod amdanyn nhw.