Mae yna gwmni cyfieithu mawr o Leeds sydd wedi bod yn destun trafod yn ddiweddar am eu bod wedi ennill cytundeb mawr gan fwrdd arholi o Gymru. Dwi’n meddwl mai’r gwaith yw cyfieithu papurau arholiad (o’r Gymraeg i’r saesneg) mewn maes eitha arbennigol er mwyn eu marcio.
Dwi ddim yn rhan o’r byd cyfieithu proffesiynol felly does gen i ddim llawer o wybodaeth am y mater, ond mae’n debyg fod y cwmni wedi ennill y cytundeb yn erbyn cwmni o Gymru drwy rhoi’r amcanbris rhataf. Ar ôl ennill y cytundeb roedd rhaid iddyn nhw nawr ffermio’r gwaith allan i gyfieithwyr llawrydd, sy’n arferol ond am bris llai na’r arfer.
Beth bynnag, trafod eu gwefan oedd fy mwriad i. Os ydych chi’n ymweld a’r wefan gyda porwr Cymraeg (h.y. un sy’n danfon y llinyn ‘cy’ ar gyfer y pennawd Accept-Language) mae’r wefan yn defnyddio’r cod iaith i chwilio am destun penodol yn yr iaith honno.
Os nad yw’r iaith hynny ar gael, mi fyddech chi’n disgwyl iddo syrthio nôl i’r testun saesneg. Wel… ddim cweit, dyma’r gwall sy’n ymddangos:
Reit eironig? Ydi’r wefan dan sylw yn gweithio i chi?
Gan Rhys Ddiog 13 Mawrth 2008 - 12:45 am
Mae’r un peth yn digwydd i mi hefyd (ond hefo ‘cy-gb’). Dwi erioed wedi dod ar draws dim byd fel hyn o’r blaen.
Braidd yn beryg dangos y neges gwall i’r byd a’r Betws fyswn i’n feddwl!
Gan Rhys 13 Mawrth 2008 - 12:14 pm
Yr un neges dwi’n gael. Mae sefyllfa’r wefan yn un gwael, ond mae’r stori amdanynt yn ennill y gytundeb yn y lle cyntaf yn fwy digalon.
Gan dafydd 13 Mawrth 2008 - 6:38 pm
Mae gwefannau .NET yn hawdd iawn i’w creu a’i gweinyddu ond mae hynny’n golygu nad oes angen cyflogi pobl profiadol i’w rhedeg. A dyna pam fod gymaint o wefannau o’r fath mor wael ac yn arddangos eu perfeddion i’r byd.