Wythnos nesa mi fydd y cerflunydd dadleuol Daniel Edwards yn arddangos ei gerflun newydd sy’n ‘coffau’ y tywysog Harri a’r ffaith na aeth allan i Iraq gyda gweddill ei gatrawd.
Fel darn o gelf mae’n bryfoclyd a wedi creu digon o ymateb. Mi fyddai nifer o bobl yn galw’r cerflun yn sarhaus, ond i fi, y peth mwya sarhaus yw’r ffaith fod y cerflun yn portreadu Harri yn dal baner Cymru yn ei law.
Gan Rhys 10 Hydref 2007 - 10:09 pm
Gaif o sarhau teulu brenhinol Lloegr gymaint licith o. Dwi’n maddau iddo am gamddefnyddio baner Cymru (wel, mae’n Amerincwr wedi’r cyfan!), ond allai ddim maddau i’r Undeb Rygbi Cymru am enwi cwpan ar ôl Willam ei frawd.
Mae’r cerflunyd wrth ei fodd gyda codi eiliau yn amlwg, mae’r cerflun o Britney annwyl yn warthus!