Mae’r garfan ‘hetiau tin-ffoil’ wrthi eto yn lledu ofn ynglŷn a technoleg di-wifr. Does dim tystoliaeth fod unrhyw niwed yn deillio o’r dechnoleg ond rhaid meddwl am y plantos!
Mae ymbelydredd electromagnetic llawer mwy pwerus wedi ei ddar-lledu o fastiau radio, teledu, lloerennau ac ati ers degawdau a does dim galw am wahardd rheiny, na unrhyw dystoliaeth eu bod yn effeithio ar iechyd unrhyw un. Mae un cyn-athrawes yn dweud y dylai lleoli’r bocs di-wifr mor bell i ffwrdd a phosib o’r plant ac i droi’r pŵer i’w isafswm. Fe ddylai hi fynd yn ôl i’r ysgol efallai i gael gwers Ffiseg ac i ddysgu ychydig am Electroneg.
Y pella oddi wrth y cyfrifiaduron mae’r mast, y mwya pwerus sydd rhaid iddo fod i drosglwyddo’r signal yn gywir. Felly i fod yn ‘saff’, fe ddylai’r mast fod mewn lleoliad canolog mor agos i’r cyfrifiaduron a phosib. Mae’r electroneg o fewn y cyfrifiaduron ac o fewn yr uned ganolog yn gweithio ar y cryfder lleia posib yn barod, er mwyn arbed egni. Yn wir rhaid mynd allan o’ch ffordd i newid cryfder y signal.
Mae un peth yn wir – mae’r defnydd o dechnoleg di-wifr mewn ysgolion ychydig yn amheus, er mwyn dilyn ffasiwn heb lawer o reswm. Mae yna fanteision o allu symud gliniaduron neu gyfrifiaduron o gwmpas heb orfod poeni am osod gwifrau ar gyfer rhwydwaith, a mi all arbed peth arian. Er hyn, mae yna ychydig o economi ffug yno – mae yna gost uwch am osod gwifrau ym mhob stafell ond mi all gosodiad safonol fod yn addas am 10 mlynedd neu fwy, tra fod technoleg di-wifr yn newid bob rhyw 3 blynedd a ni fydd byth mor gyflym a chysylltiad gwifrog. Mae rhwydwaith gwifrau yn rhwydd i’w wneud yn ddiogel hefyd tra fod bob amser posibilrwydd o hacio fewn i rwydwaith di-wifr.
Dwi’n amau fod llawer o’r dechnoleg sy’n cael ei gyflwyno i ysgolion yn cael eu gwthio gan gwmnïau masnachol a fod yr adrannau addysg a’r penaethiaid yn falch o gael brolio am eu technoleg ‘modern’ a gafwyd am bris bargen. Ond os wir eu hangen?
Gan Mei 19 Medi 2007 - 9:17 pm
Ynde.
Mae’n biti fod rhaglen o’r caliber a Panorama wedi gwneud ‘ymchwiliad’ mor uffernol o amatur.
Mae Bad Science efo mwy am y stori (a diolch byth am Dr Ben!).
“There are two things the newspapers left out of their stories: the first is the scientific evidence[…]”
Gan Rhys 1 Rhagfyr 2007 - 8:19 am
Er gwybodaeth, wyt ti wedi gweld dyfarniad y BBC am y rhaglen Panorama?