Es i am dro o gwmpas adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd cwpl o wythnosau yn ôl, lle tawel iawn ar y pryd, er fod tipyn o waith atgyweirio yn mynd ymlaen ar yr adeilad sydd ddim ond yn 18 mis oed. Mi fase chi’n meddwl hefyd bod modd glanhau staens coffi oddi ar y soffas lledr drud.
Ond fel gîc be o’n i eisiau drafod oedd y mannau gwybodaeth ‘rhyngweithiol’ sydd o gwmpas yr adeilad. Mae’r sgriniau yn sefyll fel monolithiau gwyn ar ochr y Neuadd a’r Oriel (mae o leia 8 ac efallai mwy). Dwi wedi gweithio ar fannau gwybodaeth (neu ciosg) o’r math yma yn ystod y flwyddyn ddiwetha, felly mae gen i rhyw ddealltwriaeth o beth sy’n bosib ei wneud gyda’r dechnoleg. Mae’r rhan fwyaf o giosgs yn gweithio drwy gyffwrdd y sgrîn, i arbed cael llygoden, ac yn aml mae bysellfwrdd syml. Sgrîn yn unig (wel dau i ddweud y gwir) sydd yn rhai’r Cynulliad.
I ddechrau does dim byd arnyn nhw i ddweud fod hi’n bosib eu defnyddio i gael gwybodaeth a fod rhaid cyffwrdd y sgrîn i wneud hynny. Fe bwyses i sgrîn cwpl ohonyn nhw a wnaeth ddim byd ddigwydd, felly o’n i’n meddwl i ddechrau nad oedden nhw’n sgrîniau cyffwrdd. Dwi’n amau fod y ddau beiriant yna wedi ‘rhewi’, er mai peth syml mewn ciosg da yw gwneud yn siwr fod peiriant yn ail-ddechrau os yw’r system yn cloi lan.
Ar ôl dod o hyd i beiriant oedd yn gweithio, roedd tudalen ar y sgrîn yn barod. Hynny yw, er fod neb o gwmpas a fod y sgrîn wedi bod yn segur am beth amser, doedd y system ddim wedi dychwelyd i dudalen flaen a fyddai’n gallu rhoi cyflwyniad i ddefnyddwyr newydd, ynghyd a dewis iaith.
Wedi dechrau defnyddio’r man gwybodaeth fe sylweddolais yn gyflym iawn mai dim ond un pwrpas oedd ganddo, sef dangos lle roedd pob aelod yn eistedd yn y siambr (er, roedd e’n dal i ddangos hen aelodau’r Cynulliad o etholiad 2003). Does dim byd am gefndir yr adeilad a’r gwaith adeiladu na’r sefydliad eu hunan.
Ar gyfer defnydd arferol mae ciosg o’r fath yn defnyddio technolegau safonol fel PC yn rhedeg Windows a porwr gwe sy’n dangos gwefan yn dod o weinydd mewnol (neu o’r rhyngrwyd o bosib). Er bod angen cynllunio’n ofalus i wneud yn siwr fod y testun i’w weld yn glir ar faint penodol y sgrîn, dyw e ddim yn rhywbeth hynod o gymleth i’w adeiladu. Dim rheswm felly pam na allai’r sgrîn gael dolen drwy i wefan y Cynulliad (mae nhw wedi talu digon amdani).
Dwi’n dal i ddisgwyl am wybodaeth gan y Cynulliad am faint wariwyd ar y system yma ac os oes unrhyw fwriad ei ddefnyddio mewn dull mwy effeithiol.