Dwi wedi bod yn cymryd rhan yng nghyfnod prawf Archif y BBC, lle mae’n bosib gwylio rhaglenni o archif helaeth y BBC. Cyfyng iawn yw’r dewis sydd ar gael, nid yn unig oherwydd y gwaith o drosglwyddo’r rhaglenni i fformat ddigidol ond oherwydd y broblem o glirio hawliau. Mae fwy o bwyslais ar rhaglenni dogfen a newyddion oherwydd hynny ond mae esiamplau o bob math o raglenni teledu a radio o’r 1930au hyd heddiw.
Mae’r rhaglenni teledu yn ymddangos mewn sgwâr maint 320×240 picsel (fel Youtube) felly er fod hi’n ffordd ddifyr o gael cipolwg ar hen rhaglenni, nid yw mor addas ar gyfer profiad gwylio ‘trymach’ fel dramau. Nid dyna bwriad yr archif wrth gwrs ond mae’n debyg y bydd yr archif yn ddefnyddiol i fesur ac ymchwilio i pa bynciau sy’n boblogaidd – a efallai creu cyfle i ail-ddarlledu y rhaglenni ar sianeli teledu arferol.
Ychydig iawn o ddeunydd Cymreig penodol sydd yno. Mae 6 rhaglen yng nghasgliad ‘Cymru’ (allan o 780 rhaglen yn yr archif) yn cynnwys cyngerdd Max Boyce o’r 70au a rhaglen Joan Bakewell o’r 80au yn trafod mewnfudo i Gymru. Mi wnes i ofyn am gynnyrch yn Gymraeg a mae nhw wedi ychwanegu un rhaglen, sef rhaglen ddogfen gan Ifor ap Glyn yn edrych ar hanes cerddoriaeth cyfoes Cymraeg. Fel mae’n digwydd, mae gen i’r rhaglen hwn ar dâp fideo, mewn gwell cyflwr na’r fideo ar lein.
Mi allwch chi helpu cael deunydd Cymraeg i’r archif drwy chwilio catalog enfawr y BBC a phleidleisio am raglenni. Beth am y rhaglenni addysg wnes i wylio yn yr 80au fel Hwnt ac Yma a Hyn o Fyd?
Neu rhaglenni plant fel Yr Awr Fawr a Bilidowcar?
Beth am bennod cynnar o Bobol y Cwm neu drama dditectif Bowen a’i Bartner?
Beth am Beti George ar Heddiw o 1976 neu cyfweliad o sioe siarad Hywel Gwynfryn?
Efallai rhywbeth o Radio Cymru fel sesiwn Datblygu o 1992 ar Heno Bydd Yr Adar yn Canu neu rhaglen o Pesda Roc 1984?
Dwi’n meddwl fod ni’n haeddu cael mwy na un rhaglen fach unig yn yr archif ac yn sicr yn rhywbeth cynharach na 1992 (os nad yw BBC Cymru wedi ailgylchu’r tapiau wrth gwrs).
Gan Rhys Jones 19 Medi 2007 - 10:07 pm
Diolch am ofyn am y deunydd Cymraeg. Ti wnaeth bleidleisio am Fo a Fe felly? (sydd newydd ei ychwanegu at brawf yr archif).
A bod yn onest dwi’n eitha sinicaidd o’r sylw (neu o’r diffyg sylw) mae’r BBC yn mynd i’w wneud o’r awgrymiadau geir drwy Infax – dwi’n amau mai problemau hawliau, yn enwedig ar ddeunydd cerddorol, fydd yn dylanwadu fwya arnyn nhw. Ond mi allwn ni freuddwydio/bleidleisio o hyd.
Gan dafydd 19 Medi 2007 - 10:52 pm
Rhyfedd i ti ofyn, roedd gen i gofnod drafft yn sôn am Fo a Fe, a dwi newydd ei gyhoeddi.