Dyma gerdyn nadolig S4C eleni, sy’n gwneud defnydd dychmygus o setiau teledu fel addurniadau ar y goeden. 7 mlynedd yn ôl roeddwn i’n gweithio ar wefan hyrwyddo i S4C ar gyfer y Nadolig ac y ‘Mileniwm’ newydd. Dwi ddim yn gwybod faint welodd y wefan – ychydig iawn o bobl oedd ar y we bryd hynny, neu o leia felly oedd hi’n teimlo. Yn rhan o’r cynnwys roedd clipiau fideo gyda rhai gyflwynwyr y sianel yn dymuno Nadolig Llawen.
Dwi wedi ail-ddarganfod un o rhain, gyda Beca, Ffion a Heledd mewn arddull “babes ‘n guns” fel Charlie’s Angels. (mae yna out-take lled-adnabyddus o un o’r hysbysebion ffilmiwyd). Wnes i drio arbrofi ychydig drwy ail-gymysgu y clip fideo byr a ychwanegu trac cefndir. Mae’n ymgais braidd yn amrwd falle ond yn hwyl i’w wneud. Dyma’r unig neges Nadoligaidd cewch chi ar y blog yma (a does dim clychau’r nadolig ar y fideo)! Dyma’r merched felly:
Gan aled 21 Rhagfyr 2006 - 1:41 am
ware teg, ma fe’n neis iawn… iawn… iawn… y sain sy’n neud e i mi…
ma da canolfan trainio cyfle e-gerdyn nadolig hefyd — werth gweld! 😉
Gan Chris 22 Rhagfyr 2006 - 10:33 am
Mmm, pleather. Nid ydw’n siŵr os oes gair am “pleather” yn Nghymraeg — plastic leather. Mae’n y dewisiad ffabrig cyntaf o bob mam trailer-trash yn yr UDA: “Bobby-Gene, help momma find her Marlboro 100s.”