Y Nadolig yma, mae chwaraewyr gêmau yn edrych ymlaen i chwarae ar gonsol newydd y ‘Wii’ gan Nintendo, sy’n cystadlu yn erbyn yr Xbox 360 (allan ers blwyddyn) a’r PS3 (allan ym mis Mawrth 2007, i fod).
Deng mlynedd yn ôl roedd brwydr tebyg rhwng cwmnïau Nintendo, Sony a Sega. Adeg Nadolig 1995, fe adolygwyd y Sega Saturn gan rhyw grwt ar Uned 5, sgwn i os y’ch chi’n ei nabod e?
Gan Huw Waters 10 Rhagfyr 2006 - 8:15 pm
Ai Psion oedden nhw’n ei adolygu tipyn cyn y Sadwrn?
Dwi’n cofio gweld rheina yn Currys pan o ni’n fach yn Yr Wyddgrug ac yn marw isio un. Daeth ryw ysfa i neud stwff ‘cwl’ gyda fo, fel mae John Connor yn ei wneud yn y ffilm Terminator 2, pan mae’n ‘tynnu pres allan’ o’r twll yn y wal.