Diolch i Telsa am ddod a gwefan ofnadwy TrawsCambria i fy sylw. Mae prif dudalen y wefan yn dechrau yn y modd mwy anghywir drwy ddangos baner Lloegr a Chymru nesa at y “Deqis” iaith a dyw pethe ddim yn gwella o hynny mlaen. Wedyn mae un brawddeg fach sy’n esbonio eu bod yn gweithio ar “gyfeithu yr wefan i’r Gymraeg ac fe fudd ar gael yn fuan”.
Erbyn hyn mae cynllun TrawsCambria yn cael ei reoli gan y Cynulliad er mai’r cwmniau bys preifat sy’n rhedeg y gwasanaethau, felly mae’r wefan yn torri’r gyfraith ar hyn o bryd. Ond dyma be chi’n gael wrth rhoi rheolaeth o’ch wefan i bobl meddw.
Gan Nic 30 Medi 2006 - 5:04 pm
Ach!
Gan Nic 30 Medi 2006 - 5:37 pm
Sori, i fod yn fwy adeiladol, dw i wedi sgwennu at fy AC, Elin Jones (trwy wefan WriteToThem) ac at Bespoke Multimedia, y cwmni sy wedi’i dalu, â’n harian ni, i wneud y fath llanast.
Gan Nic 2 Hydref 2006 - 12:31 pm
Neges gan Elin Jones:
Dwi wedi edrych ar y ddwy safle we – ac yn gweld yn syth pa mor wael yw’r un Trawscambria – mae gorfod gwasgu ar faner Lloegr i gale yr iaith Saesneg yn warthus.
Fe fydda i yn codi hyn gyda’r Gweinidog Trafnidaieth – a’r ffaith nad oes
cynnwys Cymraeg ar y we.
Pan gaf ateb, yna byddaf nol mewn cysylltiad
hwyl
elin
Gan dafydd 5 Hydref 2006 - 11:57 pm
Diolch Nic. Mae nhw wedi ‘datrys’ y broblem erbyn hyn drwy gopïo holl gynnwys saesneg y wefan i’r ochr Gymraeg. This bilingualism business is a piece of piss isn’t it?