Wedi ei achub o hen fideo, dyma John Grindell yn gwneud perfformiad myletastig ar Uned 5 yn 1996. Drychwch arno fe’n swyno’r synthau, anwesu’r allweddellau, mwytho’r meicroffon… Ie, wel chi’n cael y syniad.
Wedi ei achub o hen fideo, dyma John Grindell yn gwneud perfformiad myletastig ar Uned 5 yn 1996. Drychwch arno fe’n swyno’r synthau, anwesu’r allweddellau, mwytho’r meicroffon… Ie, wel chi’n cael y syniad.
Gan Johnny R 7 Gorffennaf 2006 - 2:48 pm
Hmmm, rwbeth siriwsli rong efo hwnna a Martin Geraint am ‘petha plant’ ynde? Hen bryd i ail godi the John Grindell Appreciation Society? Ella dim. Am eiliad roedd Grindell mewn ffasiwn, wedyn blynyddoedd o midi madness, ei fersiwn o ”Children” gan John Miles recordiwyd fewn rhyw Ysgol Meithrin yw y syniad/concept waethaf ef. (Sick or what?), mae hwnna (yn fyw) ar gael ar CD cawslyd ”Hyn Oll A John Grindell”..thing is he deadly serious! Bad concept arall oedd ei STEPS TRIBUTE BAND gan rhyw ‘ferch’ dan adain..history is not kind to John.
Gan Johnny R 8 Gorffennaf 2006 - 9:54 am
Gyda llaw, unrhywun sy’n ‘credu’ slogan Y Cymro a ‘glaw ei hun’ SWYNWR Y SYNTHS yn dioddef o ego mwyaf na rhys ‘small time manager’ Mwyn! Hefyd be di’r lol am ‘Stiwdio JG’??? Not quite Paisley Parc is it?? (Caia Parc??), the claasic pose efo Roland Keyboard Crys-T takes some beating tho. Murder by midi ffeil, send him a tenner for a DAT?? Ydi Grindell ar MySpacedOut teen.com?? Dim ffrinidau?? (Acually thats cool)
Johnny R Y Byd (Mor wahanol)
Gan John Grindell 14 Gorffennaf 2007 - 11:01 am
Gan fy mod yn athro a chan fy mod wedi gweithio i Awdurdod Addysg Lleol Wrecsam am 12 mlynedd, mae’n naturiol fy mod yn ysgrifennu a chyfieithu caneuon i blant. Os ydy Johnny R yn meddwl fod rhywbeth “siriwsli rong” yng nglyn ag athro yn gweithio efo plant, efallai y gall esbonio sut y gallwn addysgu ein plant?!
Dydy’r awdurdodau addysg a’r 60 o ysgolion sy’n trefnu Jamboris efo fi a Martyn Geraint ar gyfer dros 2000 o blant pob blwyddyn ddim yn meddwl fod rhywbeth “siriwsli rong” efo hyn. Efallai mae’n bryd i Johnny R aeddfedu a sylweddoli fod dyfodol y Gymraeg yn nwylo ein plant [yn cynnwys fy nau mab innau] ac os dan ni’n gorfod cyfieithu caneuon Steps i’r Gymraeg i ddenu mwy o blant at yr iaith, dwi ddim yn gweld problem.