Welais i lofnod ar ebost rhywun yn ddiweddar (rhai doniol wedi’u dewis ar hap) sy’n werth ei rannu:
There were red faces in the O.S. office when its English surveyors returned from compiling a list of house names in mid and north Wales. The results contained an unusually high number of properties called Gwyliwch rhag y ci or Caewch y git, better known in English as Beware of the Dog or Shut the Gate.
Sut allai hyn ddigwydd dyddie ‘ma, meddylies i? Wnes i lwyddo i ddarganfod ffynhonnell y dyfyniad, mewn erthygl o’r Guardian, Mehefin 1999. Dwi’n amau mai gwall y Grauniad oedd ‘git’ – mae’n siwr fod arolygwyr yr OS wedi ymfalchio wrth gofnodi’r holl enwau yn ofalus, heb sylweddoli eu camsyniad mwy sylfaenol.
Gan Telsa 16 Ionawr 2006 - 1:24 pm
Swnio fel ffrindiau fy rhieni. Fe wnaethon nhw treulio oriau chwilio am adeilad neu olygfa neu rywbeth, ar ol iddyn nhw ddilyn arwydd i gerddwyr, achos bod enw ar yr arwydd yn swnio’n ddiddorol. Fe wnaethon nhw joio’r taith, ond, ro’n nhw’n sicr bod nhw wedi colli’r prif “attraction”. Roedd nhad yn nabod yr ardal, felly gofynnodd e, am ble o’n nhw chwilio? Daeth ateb yn ol, “rhywle o’r enw Llwybr Cyhoeddus”.