Roedd yn drist iawn clywed am farwolaeth Oz (Owain Wright) mewn damwain gyda car, ar ôl iddo fod mewn ggi yn Neuadd Hendre, Bangor lle roedd ei ffrind Euros Childs yn chwarae ymysg eraill.
Mi fyddai ei lais yn fwy adnabyddus na’i wyneb dwi’n siwr, i’r rhai sy’n cofio cerddoriaeth arbennig Rheinallt H. Rowlands. Fel teyrnged bach dyma un o ganeuon cynharaf y grŵp, Weithiau sydd i’w gael ar CD Triskadekaphilia (Ankst CD 061)
Rheinallt H. Rowlands- Weithiau
[3.29MB]
Gan The shodowy Proprietor 24 Rhagfyr 2005 - 9:54 am
Wel, mae ”O” wedi mynd felly. Mae ”O” wastad eisiau byw fel Charles Bukowski (1920-1994) ynde? Nows is siawns go iawn!! Nath Oz Wright/Rheinallt H. Rowlands creu rhai o’r fideos gorau yn y iaith Gymraeg (heb OZ). Gwen i’r bedd. er cof annwyl am.. The Shadowy Proprietor Mon
Gan Dylan Mac 30 Ionawr 2006 - 11:24 pm
Colled fawr i’r dyn oedd yn ‘inspiration’ ir jam nights yn y fic a’r kings head… mi golla’i di Oz… diolch am yr amseroedd da…