Mae criw y cylch gwyddonias o’r maes wedi dechrau blog newydd – Bodio’r Bydysawd – ar gyfer eitemau newyddion, adolygiadau ar gyfer unrhywbeth arall yn trafod gwyddonias. Os ydych chi eisiau cyfrannu unrhywbeth, ewch draw a chliciwch ar y botwm Cysylltu.
Gan johnny r 16 Rhagfyr 2005 - 2:18 am
Anwwyl Dafydd Tomos,
Rwyf wedi ail-ddarganfod dau gopi o Curiad o tua 1992/3 (Hard Copi) o’m archif Recordiau R-Bennig (Ffeil ‘Petha Gwerth Cadw’), gwir yw mae’r dau cylchgrawn llawer gwell i ddarllen na’r stiwpid ‘rwi’n uwch ben bawb’ yma.
Yn enwedig safon y iaith sy’n bron i ffrwydro off y dalen. Mae’r rhai pe bai ti ishio shafftio rhyw hogyn del ar y tren o Phenarth yn clasur yn iaith y nef. ‘cylch o gwyddonwyr’ blydi hel dyn, trist neu be? Mae anaorak wedi mynd allan o ffasiwn ers talwm. Hir oes i Sbei slei gyda agenda gwerthchweil, mae’r safle yma bron yn diflas, beth am agor dy galon ar blog mwy pethnasol, neu claddu’r rwtsch dosbarth ganol unwaith ac yn byth. Pwy arall ond Johnny R
Gan dafydd 16 Rhagfyr 2005 - 2:46 pm
Ti’n iawn Johnny, mae rhaid fi ail-ddarganfod fy ysbrydoliaeth tanddaearol… addewid 2006?
Ond dyma rhai sylwadau eniwe 🙂
1. Dwi ddim yn gwneud dim byd lot a’r blog gwyddonias dim ond wedi gosod e fyny ar gyfer pobl eraill i’w ddefnyddio.
2. Blog aml-bwrpas ‘gwyneb cyhoeddus’ yw hwn i fi gael gwneud cofnodion bach ‘trist’ (dosbarth canol weithiau, ond o leia sdim malu awyr am wleidyddiaeth neu ‘achub y gymraeg’).
3. Mae hen bersonoliaeth y Sbei yn bodoli yma hefyd (fel stwff Cymal #3) a mae’n bodoli llefydd arall ar y we. Dwi’n sgrifennu pethau mwy personol yn anhysbys felly sdim cysylltiad o fan hyn (wyt ti wedi ei ffeindio eto? dwi ddim am wneud e’n hawdd i’w ddarganfod).
4. Ro’n i’n drist iawn wythnos yma, ar ôl yr holl build-up am fisoedd, wnes i golli dy Sioe Gelf sbloets (a’r ripit, er fod ti gwneud sylw amdano fan hyn.. yn anffodus dwi ddim wedi bod yn tsecio’r blog bob diwrnod). Fel ffanboi r-bennig dwi’n gytid! Och a poch.