Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol arddangosfa ar lein newydd yn dilyn hanes cerddoriaeth Cymru o’r canol oesoedd i gerddoriaeth pop, fodern.
Mae yna nifer o luniau neis yna hefyd, yn cynnwys Caryl Parry Jones mewn gwisg lachar iawn a Beganifs o 1980? Na, yr Anhrefn!
Rhywbeth od iawn arall.. dyma lun o ‘Ser y Siroedd, Gwalchmai, 1961’ ond i fi mae’n edrych fel Y Cyrff yn yr 80au!
Gan Nic Dafis 10 Rhagfyr 2005 - 12:07 pm
Dyma’r Beganifs, wedi’u cyfnewid ag Anhrefn.
Diolch am y ddolen, stwff gwych. Falch iawn o weld rhai o gasgliad Cymdeithas yr Iaith yn cael eu digiteiddio – gobeithio y bydd llawer mwy yn ymddangos.
Gan Seiriol 10 Rhagfyr 2005 - 5:32 pm
Roedd na dipyn o ddyddiadau a theitlau yn rong yn yr arddangosfa ei hun gyda llaw.
Gan johnny r 10 Rhagfyr 2005 - 5:32 pm
Beth yn union yw ‘digiteiddio’ when its at wlpan dyn? Get a grip olfodernists wir. Mae’n amlwg fod y llun hyfryd o Walchmai yw proto genod A5 ynde! Roedd un cyn aelod (Sue) yn edrych hyfryd ar fy Sioe Gelf sbloetsh ar R-bennig 7/12/2005, mae’r ail darllediad yw gweld ar S4C dydd llun nesaf 2.30 yn y p’nawn. God mae boi nic Dafis yn llyfu tin C.Y.I fel y pla..trist neu be?