Mae Chris wedi fy herio i fynd ati i eto ail-gymysgu eu eiriau doeth. Wel dyma ymgais arall, mewn un awr o whare’ ambyti. Mae’r samplau yn dod o bost diweddaraf Chris wnaeth e tra’n gyrru i’r gwaith. Mae’r lŵps cerddorol yn dod o drac ‘Yr Oerfel Fawr’ (Chris talentog arall – mae fwy o mp3au ar ei wefan).
Cymal 3 - CC2
[1.95MB]
Gan Chris 8 Tachwedd 2005 - 4:26 am
Mae hyn yn GWYCH! Dw i’n caru’r drac ‘ma. Dw i wedi gwneud post arall heddiw, gyda mwy o sŵn o’r car, ac un arall ar fy mlog Saesneg — dw i wedi aros amser hir cyn siarad i rhoi sŵn o’r injan i ti. Ond efallai wyt ti’n blinedig o fy lais.
Diolch yn fawr eto — mae’n anrhydedd fawr i bod ar y traciau ‘ma.
Gan Rhys 8 Tachwedd 2005 - 10:36 pm
Cytuno, mae’n wych. Beth am ei anfon mewn i Huw Stephens a gweld os wnaiff o ei chwarae ar C2 ryw noson?