Yn 1991, fe ddedfrydwyd Alun Llwyd a Branwen Niclas i’r carchar am 12 mis ar ôl torri mewn i swyddfeydd y llywodraeth fel rhan o ymgyrch Deddf Eiddo Cymdeithas yr Iaith.
Er mwyn codi arian at CyI yn sgîl hyn (a fel esgus da i ddathlu sîn gerddoriaeth iach iawn ar y pryd), fe ryddhawyd CD O’r Gad (Ankst 020). Mae yna lot o stwff da ar hwn felly mi fydd rhaid dewis yn ofalus. Mae’r traciau yma i gyd wedi ei ryddhau ar albymau yr artistiaid eu hunain am wn i.
Aros Mae - How!
[3.14MB]
Bob Delyn a'r Ebillion - Ffair y Bala
[4.53MB]
Geraint Jarman - Tracsiwt Gwyrdd
[4.33MB]
Datblygu - Popeth yn Gymraeg
[3.82MB]
Gan Nic Dafis 14 Medi 2005 - 8:13 am
Erioed wedi clywed y fersiwn ‘na o Bop Peth, gwych!
Gan Rhys Jones 14 Medi 2005 - 10:25 pm
Mae’r fersiwn o Ffair y Bala sydd ar Gedon rhywfaint yn wahanol – mae llais Nolwenn Corbell wedi ei ychwanegu ar hwnna. Well gen i’r fersiwn ar O’r Gad a bod yn onest.
Mae’n wych clywed gymaint o sdwff hen a ddim-mor-hen eto – diolch.
Gan Mihangel Macintosh 15 Medi 2005 - 3:18 pm
‘Os dwi’n cofio’n iawn, Pop Peth yn Gymraeg’ ydi teitl y fersiwn hyn o Pop Peth.