Roedd stori heddiw ynglyn a gwefan newydd Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd. Enw’r wefan ydi cwlfly.com – CWL ydi cod rhyngwladol y maes awyr a nid ymgyrch farchnata i wneud hedfan o Gaerdydd yn cŵl.
Dechrau o’r newydd felly – cyfle da felly i gael gwefan dwyieithog ar gyfer brif faes awyr Cymru? Peidiwch bod yn ffôl. Mae’r /en/ yng nghyfeiriad tudalennau’r wefan yn awgrymu y bydd /cy/ yn dilyn yn y dyfodol ond fe roedd /en/ yn yr hen wefan hefyd a daeth dim byd o hynny.
Gan Blog Heb Enw 8 Medi 2005 - 9:20 am
Hedfanes i o CWL cwpwl o wsnose nôl, byse chi byth yn meddwl taw yng Nghymru o ni – mi oedd cyn lleied o Gymraeg i’w weld o fewn y Maes Awyr, rhag i cywilydd. Or y llaw arall fe hedfanes i ‘da Air Wêls – mi oedd i gwybodaeth diolgelwch nhw yn ddwy-ieithog, da iawn chi.
Gan Rhodri 8 Medi 2005 - 9:57 am
Edrych fel fod Cyngor Tref Aberystwyth a Lib Dems Caerdydd Ganolog yn rhy cwl i’r Gymraeg hefyd…