Os ydych chi’n gweinyddu systemau yn ddigon hir, rydych chi’n datblygu rhyw gysylltiad telepathig gyda’r peiriannau. Os yw peiriant yn crashio neu yn stopio gweithio’n gywir am ryw reswm, mi fyddai’n teimlo’n anhapus iawn tan i fi drwsio’r broblem. Pan godes i bore ma ro’n i’n teimlo ychydig yn dost – dim byd i’n atal i rhag mynd i’r gwaith ond digon i fi feddwl dwywaith.
Dwi’n edrych ar fy ebost yn y bore bob tro rhag ofn fod unrhyw neges bwysig, i’w ddelio gyda fe ar frys. A’n wir roedd ebost o gydweithiwr yn dweud fod un gweinydd yn ‘sâl’. Roedd y gweinydd gwe yn dal i weithio heb ddim byd amlwg o’i le ond roedd hi’n amhosib cysylltu a’r gweinydd.
Roedd gen i ryw syniad beth oedd y broblem falle – mae’r rheolwr disg ar y peiriant yma wedi ‘cloi’ unwaith o’r blaen. Gan fod y gweinydd yn defnyddio pâr o ddisgiau mewn system RAID, mae popeth dal i weithio os yw un disg yn marw. Ond nid disg marw oedd hwn ond y rheolwr ei hunan, felly roedd angen ail-ddechrau’r peiriant.
Ar ôl ebostio’r cwmni yn Llundain sy’n gofalu am y rhwydwaith, fe wnaethon nhw ail-ddechrau’r peiriant ond heb lwc. Doeddwn i ddim yn ffansio trip i Lundain i drwsio’r peth felly ces i afael ar beiriannydd yn Telehouse, wnaeth eistedd o flaen y peiriant gyda allweddell a monitor a wnes i siarad y boi trwy’r camau i gael y gweinydd nôl ar ei draed.
10 munud yn ddiweddarach roedd y gweinydd yn well a fe o’n i’n teimlo’n llawer gwell hefyd.