Mae’r ddau drac canlynol yn dod o sesiwn ar raglen Ian Gill (Hwyrach, Radio Cymru) o haf 1994.
Mae’r cynta, Deluth Lv’s Naomi (ydi mae’r camsillafiad yn fwriadol) yn trafod perthynas rhwng dau ferch ac o ran hynny yn weddol unigryw yng ngherddoriaeth bop Cymraeg fasen i’n meddwl. Awdur y darn yma oedd Danw November, y ffeminist hoyw radical (lle mae hi nawr?). Mae’r gân hefyd ar Lovespoon Economy Vol. 1 (R-BEN 030).
Mae’r ail yn gân fach ddel ond dychanol gan ‘Jane’ (mi wnaeth ‘Y Quango‘ ryddhau nifer o draciau eraill a fydd rheiny yn cael eu llwytho fyny rhywbryd).
Danw - Deluth Lv's Naomi
[3.93MB]
Y Quango - O Mr Quango
[5.68MB]
Gan Johnny R 7 Awst 2005 - 6:02 am
Mae gan Danw November trac ar CD ”O’r Ddaeargell” gan R-Bennig (R-Ben 131b) 2005 o’r enw ”Wraig”, mae’r CD hefyd yn cynnwys Y Quango, hen ffefryn Nia Melville BBC Radio Cymru, fy gefais llythyr gan gyfreithwr Danw yn wahardd rhyddhau nwyddau hi am rheswm bizzare ar y pryd, felly mae Danw yn befformio/ymddangos fel ”Ms. November” ar y casgliad newydd! Efalllai nath hi rhyddhau y trac ‘lesbian’ Gymraeg gyntaf fel ”Deluth Lvs Naomi” ar R-Bennig, sy’n adrodd hanes ‘crysh’ teenie os rwi’n cofia. Mae ”Deluth Lvs Naomi” ‘re-working’ o ffeil midi WAW FFACTOR
(y grwp nid y cringy Pop Idol rip off S4C) oddi wrth Cd ”Deheuwynt” ar R-Bennig mewn dwylo Dylan Huws (Cyrff/Anrhefn/H3) recodiwyd mewn stiwdio Dave Evans Fangor! Happy days ynde!
Johnny R