Mae’r grŵp Y Brodyr yn rhyw fath o Kraftwerk i gerddoriaeth Cymraeg – mae nhw wedi gwneud popeth 10 mlynedd cyn pawb arall. Dyma drac Crafu a chosi yn y flwyddyn 2020 a recordiwyd ar gyfer sesiwn Radio Cymru nôl yn 1983. Mae’n dal i swnio’n ‘fodern’ 23 mlynedd yn ddiweddarach. Dwi ddim yn gwybod os gafodd y traciau yma ei ryddhau ar y pryd ond mae pethau fel hyn llawer rhy bwysig i hel llwch yn archifau’r BBC!
Y Brodyr - Crafu a chosi yn y flwyddyn 2020
[4.95MB]
Gan Seiriol 15 Gorffennaf 2005 - 10:54 pm
Waw diolch am hwna. Can dda iawn.
Gan Nic Dafis 17 Gorffennaf 2005 - 11:23 pm
Eiliaf! Rhyddha’r archifau!
Gan medwyn 20 Tachwedd 2005 - 11:56 pm
oes yna fwy??? Dwi’n cofio iddyn nhw neud fersiwn o Breuddwyd mewn Can hefo Cor meibion oedd yn syfrdanol ar gyfer un sesiwn