Mae’r teledu yn llawn o adroddiadau du yr wythnos yma ond dyma drac sy’n sôn am adroddiad du arall (mae rhif Childline ar y record). Anrheg i Nwdls (a phawb arall) – Adroddiad Du gan yr A5 a llais gwadd Rachel Carpenter. Mae hwn oddi ar y sengl 12″ (R-BEN 025, 1993). Ar y pryd roedd Rachel yn actio yn y rhaglen ddrama wych i blant – Yr Enwog Wmffre Hargwyn. Meic Povey oedd yn actio rhan Wmffre Hargwyn a fe oedd awdur y gyfres.
A5 - Adroddiad Du (Paramedic Mics)
[6.64MB]
Gan Rhods 11 Gorffennaf 2005 - 4:38 pm
Woo! Diolch Dafydd!
Ma honna wedi bod yn sdyc ar yr EP ers i’n chwaraeydd recordiau i dorri flynyddoedd maith yn ol. Sgen ti’m Gwefrau nagoes?…
Gan dafydd 11 Gorffennaf 2005 - 5:21 pm
Sgen i’m y Gwefrau ar feinyl na thâp ond mae gen i rhai o’i caneuon wedi ei recordio o’r radio (gen i lwyth o bethau yn barod i’w trosglwyddo). Mi fydd rhaid dechrau rhestr ‘ceisiadau’ nawr.
Gan Nic Dafis 17 Gorffennaf 2005 - 11:36 pm
Dal i ddal i fyny â’r stwff ti wedi bod yn ei bostio. Collais i’r holl stwff ‘ma y tro cynta rownd, gan fy mod i’n blydi dysgwr, ond mae’n wych i’w glywed nawr. Mwy, plîs.
Gan Johnny R 7 Awst 2005 - 5:52 am
Rhaid chwerthin at sylwadau Nic Dafis! Mae Adroddiad Du hefyd ar gael ar ffyrf CD fel goreuon A5 ”Marigolds Melyn” gyda menyg am ddim! (Tua 1997)..”Blydi Dysgwr”?..hmm addas iawn, (Nid ond yn thermau iaith Nic?)diolch am banio fi o http://www.maes-e.com wedi cymryd yonks i cael y tlws yna! Fydd darn o fideo A5 ”Adroddiad Du” yn ymddangos ar Sioe Celf S4C hydref 2005 mewn pecyn ar bymtheg blynedd o gwaith (/) Johnny R/R-Bennig..efalli roedd rant am banio fi o Maes-E..mwy na debyg dim!!
Nath A5 neud lot o sdwff da mewn gwirionedd, chwarae teg, fath o tecno/hip hop Gwynfryn Cymunedol Gwalchmai..heb arian cyhoeddus!
Ffydd,
Johnny R