Croeso i daflog – dyna’r enw gwirion dwi wedi ddewis. Wneith y tro, am nawr. Dwi ddim yn un am ddilyn ffasiwn ond fe stopiodd blogio fod yn ffasiynol blwyddyn diwethaf (mae fy nhad wedi clywed amdano) felly dwi am ddechrau un nawr.
Fe fyddai’n defnyddio y blog i gofnodi unrhywbeth diddorol fyddai’n dod ar draws ac unrhyw brosiectau (rhai gwaith a phersonol) fyddai’n gweithio arno. Bwriad penodol arall yw cyflwyno cerddoriaeth Cymraeg o’r gorffennol yn enwedig o’r 80au a 90au cynnar (“fy nghyfnod i”) a ychydig o syrpreisys falle.
Dwi’n gobeithio gallu postio yn reit cyson, ond dwi’n addo dim, reit? 🙂
Gan Rhys 1 Gorffennaf 2005 - 1:07 pm
Paid bod yn gâs at dy dad!
Gan Nic Dafis 15 Gorffennaf 2005 - 9:42 pm
Un o’r blogiau wedi bod yn aros amdano fe ers meityn. Hen bryd, Dafydd. 😉