Bywyd ar Mawrth?

Fe ddylai’r teitl gyfeirio at y blaned Mawrth wrth gwrs, am fod angen gwahaniaethu rhwng dyddiau’r wythnos, misoedd a’r planedau. Dyw BBC Cymru ddim wedi deall hyn eto, sy’n golygu fod nhw’n dangos pethau gwirion fel:

Mawrth 18 Mawrth 2008

Undeb Rygbi Cymru a’r Iaith

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau newydd ar gyfer eu defnydd o’r Gymraeg. Mi fydd yn rhaid gweld os yw’r addewidion yn cael eu gwireddu ond maen nhw bell ar ei hôl hi.

Fe wnaeth cyd-weithiwr i mi cael trafodaethau gyda nhw 9 mlynedd yn ôl ynglyn a adeiladu gwefan fyddai wedi bod a cynllun dwyieithog (sydd yn ddi-bwynt braidd os nad yw cwsmer yn fodlon cyfieithu’r cynnwys). Os ydyn nhw am newid agwedd o ddifri nawr, efallai yr hoffen nhw roi cynnig i brynu urc.co.uk oddi wrthon ni? Mi fyddai’n arbed ni rhag cael ymholiadau di-ri am yr ‘United Reform Church’.

Torri’r maen

Dychmygwch hyn. Rydych chi’n un o gynghorau lleol Cymru rhywbryd yn 2001, ac yn meddwl am sut i ddatblygu eich gwasanaethau ar lein. Mae gennych wefan syml yn barod ond mae’n amser apwyntio arbennigwyr allanol i ddatblygu un newydd sbon. Mae’r wefan yn cael ei gynllunio fel gwasanaeth dwyieithog, fel y dylai fod yn ôl deddf gwlad.

Rydych chi’n treulio blwyddyn yn datblygu a pharatoi’r cynnwys, cyn lansio’r wefan yn gynnar yn 2002, er nad yw’r cynnwys Cymraeg ddim ar gael eto. Dim problem – cuddiwch y botwm Cymraeg a fe fydd pawb yn hapus. Flwyddyn yn ddiweddarach, mae’r safle Cymraeg yn lansio o’r diwedd.

Yn 2003, rydych chi eisiau datblygu ‘gwefan gymunedol’ am mai dyma ffasiwn y cyfnod (a mae yna grant bach handi o Ewrop). Rydych chi’n prynu meddalwedd rheoli cynnwys drud iawn ac yn mynd ati i greu gwefan newydd sydd yn dyblygu rhan fwyaf o’r cynnwys sydd yn eich gwefan wreiddiol. Mae’r wefan newydd yn cael ei lansio yn uniaith Saesneg ond am nad yw’n wefan ‘swyddogol’ y cyngor, sdim angen y Gymraeg nag oes?

Mae blynyddoedd yn pasio a mae’ch gwefan swyddogol yn dechrau mynd yn hen a diflas. Erbyn 2006 rydych chi’n penderfynu ail-ddatblygu y wefan yn fewnol a mae’r gwaith o grynhoi gwybodaeth a chynnwys yn dechrau eto. Flwyddyn yn ddiweddarach mae papur newyddion y cyngor yn cyhoeddi’n falch fod y wefan newydd yn cael ei lansio ym mis Ionawr. Mae’r misoedd yn pasio a sdim golwg ohono. Ond ym mis Awst, o’r diwedd, ar ôl ychydig o drafferthion gyda’r gweinydd .NET lansiwyd gwefan newydd.

Ar ôl treulio gymaint o amser ac egni yn datblygu’r gwasanaeth newydd, fyddech chi ddim eisiau gwneud yr un camgymeriad eto fyddech chi? A lansio heb ddim o’r cynnwys Cymraeg ar gael? Na, peidiwch bod yn ddwl!

Hygyrchedd a iaith

Fe wnaeth yr erthygl yma ddal fy sylw. Yn anffodus mae’r erthyglau yma yn cael ei cyflenwi i’r wefan gan Adfero, sydd yn eu tro yn golygu a chymysgu storïau o nifer o ffynonellau. Felly mae’n anodd dod o hyd i ffynhonnell wreiddiol y dyfyniadau. Dyma y brif ffynhonnell, stori ym mhapur newydd Prifysgol Abertawe.

Ta beth, mae’r eitem yn crybwyll fod 80,000 o bobl yng Nghymru sy’n ddall neu rhannol ddall a felly fod hi’n bwysig meddwl am adeiladu gwefannau sy’n hygyrch i’r dall. 80 mil, mae hynny’n lot ondywe! Wel, dim ond 2% o boblogaeth Cymru. Dychmygwch petai rhywun yn gwneud datganiad fel:

[Wales] has some 500,000 fluent or semi-fluent Welsh speakers, so designing websites with Welsh-language content is “well worth doing” for companies in the country.

Y gwahaniaeth rhwng y dall a’r siaradwyr Cymraeg wrth gwrs fod ni’n gallu ‘dewis’ siarad Saesneg a dyna’r esgus arferol yn absenoldeb deddfau i sicrhau cydraddoldeb. Dwi wedi clywed pobl yn cwyno am y ‘gost’ o ddarparu deunydd dwyieithog ond ddim yn cwyno am y gost (llawer uwch yn aml iawn) o sicrhau hygyrchedd i’r anabl a cyfleoedd cyfartal ymhob agwedd o redeg busnes.

Mae creu gwefannau hygyrch yn bwysig yn sicr ac yn fwy na hynny yn weddol rhwydd i wneud, drwy ddilyn safonau; mae unrhyw gostau yn rhan o’r gwaith dylunio/adeiladu a felly ddim mor amlwg i’r cwmni sydd wedi comisiynu’r wefan. Y cwmni sy’n darparu’r cynnwys a felly mae costau cyfieithu yn fwy amlwg iddyn nhw. Mae gwefan fasnachol yn cael ei ystyried yn fuddsoddiad er mwyn ennill cwsmeriaid a mewn cynllun busnes synhwyrol mi ddylai fod gwefan ddwyieithog yn gam arall i gynyddu yr ROI hollbwysig.

Beth dwi’n drio ddweud felly? Wnai ddim enwi nhw ond yn rhinwedd fy swydd dwi wedi dod ar draws nifer o bobl marchnata sy’n ail-adrodd y ddadl o ‘gost’ yn ddi-gwestiwn, nifer ohonyn nhw’n Gymry Cymraeg yn anffodus. Cyn i ni allu perswadio cwmniau rhyngwladol i gymryd yr Iaith o ddifri efallai ddylen ni ddechrau’r gwaith yn agosach adre.

Darllen y we

Mae Readspeaker yn wasanaeth masnachol sy’n gosod technoleg testun-i-lais mewn ffordd hwylus o fewn gwefan. Mae’n defnyddio meddalwedd Festival a felly yn gallu ‘siarad Cymraeg’ gyda’r llais a ddatblygwyd gan Ganolfan Bedwyr.

Mae Bwrdd yr Iaith newydd lansio hwn ar eu gwefannau (edrychwch am y botwm ‘darllennwch y dudalen’. Er fod y llais Cymraeg yn gwneud ymdrech deg iawn ar ddarllen y testun, mae’n werth cymharu gyda ansawdd a huodledd y llais Saesneg, sydd yn dangos be allwch chi gyflawni gyda fwy o arian ac ymchwil.