Dwi wedi bod yn dechrau sganio fy hen gopïau o’r cylchgrawn cerddoriaeth Sothach (Soth! yn ddiweddarach). Diolch i Iwan Standley hefyd sydd wedi dechrau sganio ei gopïau ‘e.
Fe gyhoeddwyd Sothach o 1988 i 1996 gan Gwmni Cytgord ym Methesda. Dwi ddim yn cofio’n union beth ddigwyddodd ond fe ddaeth i ben yn ddisymwth heb gael rhifyn ‘ffarwel’. Roedd yn gylchgrawn pwysig i mi yn ystod y 90au er mwyn cael gwybodaeth am gerddoriaeth Cymraeg. Roedd e fod dod allan yn fisol ond doedd e byth ar amser a roedd e’n eitha tenau ar adegau.
Chwarae teg i’r golygyddion, roedden nhw’n fodlon cyhoeddi’r holl lythyrau yn cwyno (yn cynnwys rhai anaeddfed gen i) ond mae’n debyg eu bod nhw’n gwneud ymdrech go lew heb lawer o adnoddau.
Nawr mod i wedi dechrau, dwi’n gobeithio gwneud y gwaith sganio yn fwy rheolaidd. Megis dechrau felly, ond dyma Archif Sothach!
Gan Carl Morris 4 Tachwedd 2011 - 1:26 am
GWYCH x 1000000
Oedd na mwy nag un Cwmni Cytgord achos roedd cwmni o’r un enw yn dal i gasglu’r siart i Radio Cymru tua 2005?
Gan dafydd 4 Tachwedd 2011 - 10:30 am
Yr un cwmni mewn enw. Roedd yna gwmni cyfyngedig “Cwmni Cydweithredol Cytgord” yn bodoli o 1985-1999 – wedi ei sefydlu gan Dafydd Rhys (brawd Gruff) a Emyr Pierce. Roedden nhw’n gwneud gwaith ymchwil i raglenni cerddoriaeth S4C (a Radio Cymru?) yn ogystal a cyfrifo’r siart a chyhoeddi Sothach.
Fe wnaeth Siart Cytgord barhau fel gwaith ar wahan ond dwi’n meddwl mai dim ond Emyr Pierce sy’n gyfrifol am hwn nawr.
Gan Nic Dafis 4 Tachwedd 2011 - 11:41 am
> GWYCH x 1000000
x 2
Gan Huw 4 Tachwedd 2011 - 6:40 pm
Oes modd rhedeg ‘optical character recognition’ wrth greu’r PDF, i allu chwilio trwy’r dogfenau?
Gan dafydd 4 Tachwedd 2011 - 6:54 pm
Dwi wedi trio rhaglen OCR am ddim (Tesseract) ar y sganiau gwreiddiol a dyw’r allbwn ddim rhy ddrwg (90-95% cywir). Dwi ddim yn credu fod geiriadur Cymraeg ar gael i feddalwedd OCR ond mi fyddai’n hynny’n help. Fase dal angen mynd drwy popeth i’w gael yn iawn. Mi fydde yna dipyn o waith oherwydd y colofnau ac ati. Prosiect bach ar gyfer y dyfodol falle?