daflog

  • Cyhoeddwyd: 13:47, Chwefror 9, 2010
  • Categori: Iaith, Teledu
  • Sylwadau: 3

S4C Manylder Uwch

Mae S4C wedi gofyn i’w gwylwyr am gynigion i enwi eu sianel newydd fydd yn darlledu yn HD (yn glyfar iawn, mae nhw’n osgoi y gair ‘cystadleuaeth’). Felly dyma rhai o fy nghynigion i. Does dim rheidrwydd i ddefnyddio ‘S4C’ yn yr enw o gwbl ond mae yna demtasiwn i ddefnyddio’r ddyfais /C hynny.

S4/C Iolo

Sianel wedi ei neilltuo yn llwyr i raglenni wedi eu cyflwyno gan ‘darling’ y sianel – Iolo Williams (a mae yna ddigon o raglenni i’w dangos).

S4/Capel

Mae cynulleidfa S4C reit debyg i gynulleidfa capel – hen bobl, llond llaw o rieni ifanc a’r plant o dan 14 sydd yn cael eu llusgo yno.

S4/Clir

Am fod ansawdd llun S4/C Digidol mor ofnadwy ers y newid digidol, mi fydd y llun HD yn llawer ‘cliriach’ a nôl i’r safon oedd S4/C Digidol yn y lle cynta.

S4/Colur

Fe fydd mawrion y genedl nawr yn ymddangos mewn llun diffiniad uchel fydd yn dangos pob crychyn ar eu gwyneb, felly fe fydd gofyn am fwy o golur yn sicr.

S4/Cwm

Sianel sy’n dangos Pobol y Cwm rownd y cloc a dim byd arall (peidiwch cymysgu hwn a S4C Digidol sydd yn darlledu dewis bach o raglenni eraill rhwng pennodau o Bobol y Cwm).

S4/Cyfan

Mae’r cyfan i’w weld ar S4C mewn manylder uwch (mae hwnna yn lled ddifrifol, ond mae ‘gwyliwch y cyfan’ yn slogan ddefnyddiol i’r sianel ‘gyffredin’ hefyd). Yn anffodus ni fydd y cyfan o raglenni S4C i’w gweld yn HD gan mai darlledu o 6-11pm fydd y gwasanaeth i gychwyn.

Mae rhai sianeli saesneg wedi eu hail-enwi yn llwyddiannus i enwau sy’n swnio’n dwp i ddechrau – fel ‘Dave’. Beth am ddefnyddio’r un dechneg felly – na, nid ‘Daf’, ond rhywbeth fwy addas – ‘Rhisiart‘ efallai?

3 o sylwadau to “S4C Manylder Uwch”


  1. Rhodri ap Dyfrig
    ar Chwe 9, 2010
    @ 16:33

    S4/X – cigydd Aberteifi a repeats o Amanda Protheroe ar Pacio mewn MU?

    S4/U – gallan nhw droi’r C rownd a gwneud U, ew, clyfar

    S4/Campus – llun penigamp o gampau campio campus Huw Ffash (a’i babellwisg* ddu)


  2. James D
    ar Chwe 10, 2010
    @ 00:23

    Beth am:

    S4/Crachach — dogfennau, newyddion, cyfweliadau diflas, a chyngherddau clasurol.


  3. Huw Waters
    ar Chwe 14, 2010
    @ 01:49

    Wrach bydd problem efo ‘Rhisiart’. Gall ddryswch fod rhwng y sianel a’r barbwr ‘Gwallt gan Rhisiart’.

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.