daflog

  • Cyhoeddwyd: Mai 22, 2007
  • Categori: Hwyl, Y We
  • Sylwadau: Comments Off

Y tric mewn busnes yw…

Ydych chi erioed wedi meddwl am be mae’r pobl busnes na’n gwneud yn eu ciniawau (neu brecwastau) ‘rhwydweithio’?

Mae aelodau clwb ‘Working Lunch Wales’ wedi bod yn dysgu gwneud ychydig o hud a lledrith. Wele un o’r triciau sy’n cael ei berfformio gan ddau dyn busnes – tra bod un yn eistedd yn yr awyr gyda dim ond un goes ar y llawr, mae’r llall yn balansio ar ei gefn! Mae llun y pâr dawnus ar y dudalen yma (sgroliwch i lawr).

  • Cyhoeddwyd: Mai 17, 2007
  • Categori: Fideo, Hwyl
  • Sylwadau: 3

Chris a Sian

Mae pawb yn caru Chris…

Trwy’r coed

Dyma un darn o’r olygfa sy’ gen i o’r swyddfa newydd. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr o edrych allan ar wal frics. Ydych chi’n gwybod be sy’n cuddio tu ôl y coed? (cliciwch am lun mwy)

Trwy'r Coed

  • Cyhoeddwyd: Mai 16, 2007
  • Categori: Cyffredinol
  • Sylwadau: Comments Off

Llun y pennawd

Dwi wedi newid llun ar ben y dudalen o’r hen un diflas, hydrefol i dirlun mwy addawol. Dyw’r olygfa ddim yn bodoli mewn gwirionedd – mae’n lun cyfansawdd ffotosiop (neu Adobe® Photoshop®). Tynnwyd y lluniau gwreiddiol o ffenest fy swyddfa newydd (mwy am hynny yn y man).

  • Cyhoeddwyd: Mai 16, 2007
  • Categori: Cymraeg, Y We
  • Sylwadau: 1

Hygyrchedd a iaith

Fe wnaeth yr erthygl yma ddal fy sylw. Yn anffodus mae’r erthyglau yma yn cael ei cyflenwi i’r wefan gan Adfero, sydd yn eu tro yn golygu a chymysgu storïau o nifer o ffynonellau. Felly mae’n anodd dod o hyd i ffynhonnell wreiddiol y dyfyniadau. Dyma y brif ffynhonnell, stori ym mhapur newydd Prifysgol Abertawe.

Ta beth, mae’r eitem yn crybwyll fod 80,000 o bobl yng Nghymru sy’n ddall neu rhannol ddall a felly fod hi’n bwysig meddwl am adeiladu gwefannau sy’n hygyrch i’r dall. 80 mil, mae hynny’n lot ondywe! Wel, dim ond 2% o boblogaeth Cymru. Dychmygwch petai rhywun yn gwneud datganiad fel:

[Wales] has some 500,000 fluent or semi-fluent Welsh speakers, so designing websites with Welsh-language content is “well worth doing” for companies in the country.

Y gwahaniaeth rhwng y dall a’r siaradwyr Cymraeg wrth gwrs fod ni’n gallu ‘dewis’ siarad Saesneg a dyna’r esgus arferol yn absenoldeb deddfau i sicrhau cydraddoldeb. Dwi wedi clywed pobl yn cwyno am y ‘gost’ o ddarparu deunydd dwyieithog ond ddim yn cwyno am y gost (llawer uwch yn aml iawn) o sicrhau hygyrchedd i’r anabl a cyfleoedd cyfartal ymhob agwedd o redeg busnes.

Mae creu gwefannau hygyrch yn bwysig yn sicr ac yn fwy na hynny yn weddol rhwydd i wneud, drwy ddilyn safonau; mae unrhyw gostau yn rhan o’r gwaith dylunio/adeiladu a felly ddim mor amlwg i’r cwmni sydd wedi comisiynu’r wefan. Y cwmni sy’n darparu’r cynnwys a felly mae costau cyfieithu yn fwy amlwg iddyn nhw. Mae gwefan fasnachol yn cael ei ystyried yn fuddsoddiad er mwyn ennill cwsmeriaid a mewn cynllun busnes synhwyrol mi ddylai fod gwefan ddwyieithog yn gam arall i gynyddu yr ROI hollbwysig.

Beth dwi’n drio ddweud felly? Wnai ddim enwi nhw ond yn rhinwedd fy swydd dwi wedi dod ar draws nifer o bobl marchnata sy’n ail-adrodd y ddadl o ‘gost’ yn ddi-gwestiwn, nifer ohonyn nhw’n Gymry Cymraeg yn anffodus. Cyn i ni allu perswadio cwmniau rhyngwladol i gymryd yr Iaith o ddifri efallai ddylen ni ddechrau’r gwaith yn agosach adre.

© 2009 Dafydd Tomos. Cedwir Pob Hawl.

Pwerir gan Wordpress a thema Magatheme gan Bryan Helmig.