Mam, dw’isio in-tyr-net!

Mwy o ‘hen newyddion’ am y rhyngrwyd, o Ebrill 1995. Mae’r clip yn hunan-esboniadwy. Mi ddyle fod y plant yma yn y coleg (neu newydd adael) erbyn hyn, rhywun yn eu nabod?

8 thoughts on “Mam, dw’isio in-tyr-net!

  1. “Ti di clywed am Internet?”

    “Fysa chdi’n hoffi cael un?”

    Marian Wyn Jones wedi llawn ymchwilio ei phwnc…

    “A ma’r cwbl lot ar y CD ‘ma”

  2. Dwin nabod yr ail, wel, gwybod pwy ydi o. Nath o adael chweched dosbarth tua dwy flynedd yn ol. Iwan, neu Sion oedd ei enw..wbath felly.

  3. Roedd ‘rhyngrwyd’ yng Ngeiriadur yr Academi yn 1995, ond wrth gwrs dyw hynna ddim yn golygu y byddai unrhywun yn y cyfryngau wedi ei ddefnyddio am fod y cyfryngau saesneg wedi gwthio’r gair gymaint a roedd rhaid bod yn ‘ddealladwy’ yn y dull Heno-aidd.

  4. Fy hoff ddarn i o newspeak ydy:

    “Does ‘na ddim dwywaith na fyddai “internet” yn deffro chwilfrydedd disgyblion ac yn agor drsyau i wybodaeth dibendraw ym mhob rhan o’r byd.”

  5. Ma gen i deimlad nad oedd y gohebydd na’r un a holwyd yn llawn ddallt y pwnc. “Mi fasa’n well gen i weld arian yn cael ei wario ar gyfrifiaduron nac ar internet”. Dyddiau diniwed yn Llanrug!