Sioni’r Sbwng

Mae Bwrdd yr Iaith wedi lansio ymgyrch bach heddiw o’r enw ‘Kids soak it up‘ (yr iaith hynny yw). Mae’r deunydd hyrwyddo yn defnyddio cymeriad bach rhyfedd – dwi ddim yn siwr beth yw ei enw ond dwi am ei enwi’n Sioni’r Sbwng.

A dyma fy ychwanegiad i i’r fenter (cliciwch am lun mwy)

Lladd Cathod

Caewch y git

Welais i lofnod ar ebost rhywun yn ddiweddar (rhai doniol wedi’u dewis ar hap) sy’n werth ei rannu:

There were red faces in the O.S. office when its English surveyors returned from compiling a list of house names in mid and north Wales. The results contained an unusually high number of properties called Gwyliwch rhag y ci or Caewch y git, better known in English as Beware of the Dog or Shut the Gate.

Sut allai hyn ddigwydd dyddie ‘ma, meddylies i? Wnes i lwyddo i ddarganfod ffynhonnell y dyfyniad, mewn erthygl o’r Guardian, Mehefin 1999. Dwi’n amau mai gwall y Grauniad oedd ‘git’ – mae’n siwr fod arolygwyr yr OS wedi ymfalchio wrth gofnodi’r holl enwau yn ofalus, heb sylweddoli eu camsyniad mwy sylfaenol.

Yr IT Crowd

Mae rhaglen gomedi newydd yn dechrau ar Channel 4 mis nesa, yn canolbwyntio ar y gwaith di-ddiolch hynny sy’n rhan hanfodol o bob busnes heddiw – yr adran technoleg gwybodaeth. Mae’n argoeli’n dda am mai Graham Linehan yw’r awdur ond dwi hefyd yn edrych ymlaen am y cameo gan Chris Morris. Mi fydd hi’n bosib gweld y pennodau wythnos o flaen llaw ar wefan Channel 4.