{"id":955,"date":"2020-08-03T23:04:06","date_gmt":"2020-08-03T22:04:06","guid":{"rendered":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=955"},"modified":"2020-12-02T23:15:51","modified_gmt":"2020-12-02T23:15:51","slug":"eisteddfod-ar-yr-intyrnet","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2020\/08\/03\/eisteddfod-ar-yr-intyrnet\/","title":{"rendered":"Eisteddfod ar yr intyrnet"},"content":{"rendered":"\n<p>Mae&#8217;r we mor greiddiol i gymaint o&#8217;n profiadau heddiw fel ei fod yn hawdd anghofio am lawer o&#8217;r datblygiadau cynnar yn y 1990au. Ond diolch i glip archif ar wefan BBC Cymru Fyw, fe ysgogodd ychydig o atgofion.<\/p>\n\n\n\n<p>25 mlynedd yn \u00f4l, i&#8217;r wythnos os nad i&#8217;r diwrnod, roeddwn i yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abergele, lle roedd cysylltiad rhyngrwyd ar gael ar y Maes am y &#8220;tro cyntaf&#8221; (rhaid i rywun frolio am wneud y cyntaf o&#8217;r fath beth bynnag, sy&#8217;n sicrhau y cofnod mewn hanes).<\/p>\n\n\n\n<p>Roeddwn i wedi lansio gwefan Curiad yn gynharach yn y flwyddyn ac fe ymddangosodd ar raglen Uned 5 ym Mehefin 1995:<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-embed-youtube wp-block-embed is-type-video is-provider-youtube wp-embed-aspect-4-3 wp-has-aspect-ratio\"><div class=\"wp-block-embed__wrapper\">\n<div class=\"epyt-video-wrapper\"><iframe loading=\"lazy\"  id=\"_ytid_51560\"  width=\"480\" height=\"360\"  data-origwidth=\"480\" data-origheight=\"360\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/7myp3hVokkA?enablejsapi=1&#038;autoplay=0&#038;cc_load_policy=0&#038;cc_lang_pref=&#038;iv_load_policy=1&#038;loop=0&#038;rel=1&#038;fs=1&#038;playsinline=0&#038;autohide=2&#038;theme=dark&#038;color=red&#038;controls=1&#038;disablekb=0&#038;\" class=\"__youtube_prefs__  epyt-is-override  no-lazyload\" title=\"YouTube player\"  allow=\"fullscreen; accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen data-no-lazy=\"1\" data-skipgform_ajax_framebjll=\"\"><\/iframe><\/div>\n<\/div><\/figure>\n\n\n\n<p>Yn y cyfnod yna cefais i gefnogaeth a chymorth gan Rhys Jones a oedd wedi creu y gymuned rhith &#8216;Gwe-Awe&#8217; sydd yn ymddangos yn y fideo uchod. Y datblygiad mwyaf defnyddiol oedd cael gofod parhaol i wefan Curiad ar ei weinydd ef, gyda&#8217;r cyfeiriad <em>www.wales.com<\/em>\/<em>curiad <\/em>i ddechrau yna <em>curiad.wales.com<\/em>.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y misoedd yn arwain at Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn 1995, roedd Rhys wedi cychwyn cwmni Technoleg Gwe i ddatblygu gwefannau ac fe greodd wefan gyda gwybodaeth am yr Eisteddfod. Mae yna erthygl yn y Western Mail ar 19 Mai 1995 yn esbonio&#8217;r bwriad (<em>diolch i&#8217;r Rhys Jones arall am y sgan<\/em>).<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img decoding=\"async\" src=\"\/storfa\/2020\/08\/Western Mail 1995-05-19.png\" alt=\" alt=\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae canlyniad hyn i gyd i&#8217;w weld ar glip <a href=\"https:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\/53552638\">fideo<\/a> o&#8217;r archif mewn stori gan BBC Cymru Fyw wythnos ddiwethaf lle mae Rhys yn esbonio&#8217;r dechnoleg gyffrous newydd. Rhyw fath o gaffi seiber oedd yno, ym mhabell Busnes\/Technoleg y WDA, gyda sawl cyfrifiadur ar gael i &#8220;syrffio&#8217;r rhyngrwyd&#8221;.<\/p>\n\n\n\n<p>Roeddwn i wedi ychwanegu gwybodaeth gigs a newyddion ar wefan Curiad yn y mis cyn y Steddfod, fel mae&#8217;r <a href=\"http:\/\/web.archive.org\/web\/19970513134051\/http:\/\/www.curiad.wales.com\/newydd\/1995\/07.html\">archif<\/a> yn dangos. Yn \u00f4l ebost gen i ar pryd, o&#8217;n i hefyd wedi bod yn creu mapiau o Gymru er mwyn datblygu gwefan &#8216;Cymru Rhithwir&#8217; ond does gen i ddim syniad yn union be ddaeth ohono! (rhyw fath o Google Maps cyntefig rwy&#8217;n amau).<\/p>\n\n\n\n<p>Yn ystod yr wythnos, fy swydd i oedd helpu pobl gyda defnyddio&#8217;r we, ateb cwestiynau ac ati. Wnes i gyfweliad byr ar Radio Cymru yn ceisio esbonio&#8217;r intyrnet bondigrybwyll i&#8217;r gwrandawyr, er does gen i ddim cof o be ddwedes i.<\/p>\n\n\n\n<p>Datblygodd y ddarpariaeth y flwyddyn ganlynol gyda pabell ar wahan er mwyn creu fwy o gaffi seiber cyffyrddus gyda cadeiriau o flaen tua 8 neu 10 cyfrifiadur. Roeddwn i n\u00f4l eto yn 1996 a 1997 i ofalu am y &#8216;caffi&#8217;.<\/p>\n\n\n\n<p>Roedd hyn i gyd cyn bodolaeth Google neu unrhyw beiriant chwilio&#8217;r we, felly roedd rhaid dilyn o ddolen i ddolen drwy&#8217;r we. Byddai&#8217;r dudalen cartref &#8216;Eisteddfod ar yr Internet&#8217; felly yn cynnig dolenni i&#8217;r nifer fechan o wefannau Cymraeg oedd ar gael ar y pryd. Erbyn 1996 roedd y peiriant chwilio Altavista yn bodoli ac roedd cyfeiriadur Yahoo yn hynod o ddefnyddiol i&#8217;r We Gymraeg cynnar hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y dyddiau hynny yr unig gysylltiad posib i&#8217;r rhyngrwyd oedd drwy linell ff\u00f4n analog. Rwy&#8217;n ansicr os oedd hi&#8217;n bosib cael cysylltiad ISDN ar faes yr Eisteddfod yn 1995, heblaw efallai am Swyddfa&#8217;r Eisteddfod. Roedd yn bosib i&#8217;w gael erbyn y 1990au hwyr yn bendant.<\/p>\n\n\n\n<p>Yn y byd analog, roedd y cysylltiad i&#8217;r rhyngrwyd drwy fodem (33.6 kbit\/s ar y mwyaf) wedi ei gysylltu i weinydd Linux, oedd yn deialu fyny rhif ff\u00f4n lleol (i gyfrif rhyngrwyd gyda Demon Internet). Roedd y gweinydd hefyd yn ddirprwy i weddill y cyfrifiaduron ar y rhwydwaith leol. Felly byddai&#8217;r gweinydd yn gallu cadw gwefannau ar storfa leol, meddalwedd Squid mwy na thebyg, a byddai hyn yn arbed ail-drosglwyddo ceisiadau dros y cysylltiad modem araf.<\/p>\n\n\n\n<p>Yr unig beth oedd angen gofalu amdano mewn gwirionedd oedd ail-gychwyn y cysylltiad rhyngrwyd os oedd y llinell ff\u00f4n yn gollwng. A byddai rhaid gofalu na fyddai plant yn edrych ar bethau rhy amheus ar y cyfrifiaduron (nid fod pethau amheus yn hawdd i&#8217;w canfod adeg hynny).<\/p>\n\n\n\n<p>Does dim archif hyd y gwn i o&#8217;r wefan Eisteddfodol gyntaf yna, na Gwe-Awe. Mae&#8217;r cof yn dechrau pylu am lawer o&#8217;r manylion am y datblygiadau cynnar, er mod i gen i rhai negeseuon ebost o&#8217;r cyfnod sy&#8217;n rhoi rhywfaint o fanylion.<\/p>\n\n\n\n<p>Felly mae&#8217;r ffaith ei fod wedi gofnodi gan eitemau newyddion\/nodwedd ar deledu yn eitha defnyddiol &#8211; ond yn sicr mae yna fwy yn archif y darlledwyr.<\/p>\n\n\n\n<p><em>Diweddariad<\/em> <em>4 Awst<\/em>: <em>Bron i fi anghofio am yr erthygl a ymddangosodd yn y Western Mail ar 11 Awst 1995<\/em> &#8211; <a href=\"https:\/\/www.flickr.com\/photos\/dafydd\/5614268282\/sizes\/h\/in\/set-72157626359816229\/\"><em>sgan ar Flickr<\/em><\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae&#8217;r we mor greiddiol i gymaint o&#8217;n profiadau heddiw fel ei fod yn hawdd anghofio am lawer o&#8217;r datblygiadau cynnar yn y 1990au. Ond diolch i glip archif ar wefan BBC Cymru Fyw, fe ysgogodd ychydig o atgofion. 25 mlynedd &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2020\/08\/03\/eisteddfod-ar-yr-intyrnet\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[25,5,21],"tags":[],"class_list":["post-955","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cymraeg","category-technoleg","category-y-we"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/955","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=955"}],"version-history":[{"count":8,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/955\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":963,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/955\/revisions\/963"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=955"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=955"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=955"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}