{"id":817,"date":"2016-02-26T11:31:18","date_gmt":"2016-02-26T11:31:18","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=817"},"modified":"2020-08-03T23:22:33","modified_gmt":"2020-08-03T22:22:33","slug":"isdeitlau-gorfodol-s4c","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2016\/02\/26\/isdeitlau-gorfodol-s4c\/","title":{"rendered":"Isdeitlau gorfodol S4C"},"content":{"rendered":"<p>Mae S4C wedi <a href=\"http:\/\/www.s4c.cymru\/c_press_level2.shtml?id=3200\">datgan <\/a>eu bod am ddangos isdeitlau gorfodol (h.y. wedi llosgi ar y sgr\u00een) wythnos nesaf fel ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o&#8217;r gwasanaeth isdeitlo. Mae hyn yn dilyn <a href=\"http:\/\/www.bbc.co.uk\/cymrufyw\/35155106\">syniad dwl<\/a> Tweli Griffiths ym mis Rhagfyr o roi isdeitlau otomatig ar y sianel.<\/p>\n<p>Dyma gopi o ebost dwi wedi danfon at S4C.<\/p>\n<hr \/>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Hoffwn gwyno am eich cynlluniau i osod isdeitlau saesneg gorfodol<br \/>\nar rai rhaglenni wythnos nesa. Dwi&#8217;n gwrthwynebu am nifer o resymau:<\/p>\n<p>1. Yr egwyddor<\/p>\n<p>Rydych yn hoffi son o hyd mai S4C yw&#8217;r unig sianel Gymraeg yn y byd<br \/>\n(fel pe bai hyn yn rhinwedd yn hytrach na diffyg). Eto mae&#8217;r &#8216;unig<br \/>\nsianel Gymraeg&#8217; yn gorfodi ei gynulleidfa craidd i edrych ar destun<br \/>\nSaesneg. Does dim synnwyr yn hyn.<\/p>\n<p>Mi fydd gwylwyr sy&#8217;n drwm eu clyw neu byddar yn defnyddio isdeitlau<br \/>\nCymraeg\/Saesneg beth bynnag a fe alla&#8217;i hyn amharu gyda&#8217;r isdeitlau<br \/>\nwedi ei llosgi ar y sgrin.<\/p>\n<p>2. Mae&#8217;n gosod cynsail peryglus.<\/p>\n<p>Unwaith iddo gael ei wneud unwaith, fe fydd hi&#8217;n haws gwneud eto yn y<br \/>\ndyfodol ac yn arf defnyddiol i&#8217;r rhai sydd am weld y sianel yn troi&#8217;n<br \/>\nun dwyieithog.<\/p>\n<p>Fe alla&#8217;i ragweld gwleidyddion anwybodus o Lundain yn ei ddefnyddio<br \/>\nfel esiampl o sut all S4C &#8220;ehangu ei apel&#8221; a pham ddim ei wneud drwy&#8217;r<br \/>\namser? A pham ddim dybio rhaglenni neu ffilmiau saesneg? A pham ddim<br \/>\nrhaglenni dwyieithog? Ac ymhen dim dyna&#8217;r &#8216;unig sianel Gymraeg yn y<br \/>\nbyd&#8217; wedi diflannu.<\/p>\n<p>3. Mae&#8217;n ddi-bwrpas<\/p>\n<p>Dyw gwasgu botwm i droi isdeitlau ymlaen ddim yn anodd, mae wedi bod<br \/>\nyn dechnoleg safonol ar setiau teledu a bocsys digidol ers 35<br \/>\nmlynedd. Mae&#8217;n iawn i godi ymwybyddiaeth, fel yr ydych yn wneud gyda<br \/>\nhysbysebion &#8216;Bob&#8217; ond peidiwch a dweud fod pobl di-Gymraeg yn rhyw dwp<br \/>\na ddim yn gwybod sut i ddefnyddio isdeitlau.<\/p>\n<p>Yn ol beth alla&#8217;i weld, ni fydd cyfle i weld copi &#8216;glan&#8217; o rai<br \/>\nrhaglenni, fel Ochr 1 &#8211; Gwobrau&#8217;r Selar a Sam ar y Sgrin.<\/p>\n<p>Felly, ni fyddaf yn gwylio S4C yr wythnos nesa o gwbl.<\/p>\n<hr \/>\n<p><strong>Diweddariad:<\/strong> Dyma ymateb Gwifren Gwylwyr S4C<\/p>\n<p style=\"padding-left: 30px;\">Diolch yn fawr i chi am gysylltu i rannu eich safbwyntiau ynghylch y gwasanaeth isdeitlo Saesneg. Rydym wedi nodi eich sylwadau ac mi fyddan nhw&#8217;n cael eu rhannu \u00e2&#8217;r bobl berthnasol yn S4C.<\/p>\n<p style=\"padding-left: 30px;\">Mae S4C yn cynnig sawl gwasanaeth er mwyn gwneud ein rhaglenni ar gael i gymaint o bobl \u00e2 phosib. Mae hyn yn cynnwys arwyddo a sain ddisgrifio yn ogystal ag isdeitlau Cymraeg a Saesneg. Mae isdeitlau yn bwysig ar gyfer gwylwyr byddar a thrwm eu clyw ac yn ddefnyddiol ar gyfer dysgwyr hefyd. Rydym hefyd yn gwybod bod isdeitlau Saesneg yn rhoi cyfle i bobl sy&#8217;n llai hyderus yn y Gymraeg, di-gymraeg a chartrefi iaith gymysg i fwynhau ein rhaglenni.<\/p>\n<p style=\"padding-left: 30px;\">Bwriad yr ymgyrch yma yw hyrwyddo gwasanaeth rydym yn ei gynnig yn barod. Am bum niwrnod wythnos nesa&#8217; bydd isdeitlau yn awtomatig ar fwy o raglenni na&#8217;r arfer. Wedi hynny byddwn yn dychwelyd i&#8217;r drefn arferol ac yn annog gwylwyr sydd eisiau eu defnyddio i&#8217;w troi ymlaen er mwyn mwynhau ein rhaglenni.<\/p>\n<p style=\"padding-left: 30px;\">Rydym yn derbyn adborth yn aml gan wylwyr sydd yn dymuno gwylio rhaglenni S4C ond ddim yn gwybod bod isdeitlau ar gael i&#8217;w helpu. Yn aml iawn hefyd mae pobl yn gofyn am help i droi isdeitlau ymlaen gan fod defnyddio&#8217;r gwasanaeth yn amrywio o deledu i deledu ac o ddyfais i ddyfais. Mae hyn yn broblem i lawer iawn o bobl ac rydym eisiau i wylwyr wybod ein bod ni yn gallu helpu drwy gysylltu \u00e2 Gwifren Gwylwyr S4C.<\/p>\n<p style=\"padding-left: 30px;\">Unwaith eto, diolch am gysylltu \u00e2 ni i rannu sylwadau. Mae barn ein gwylwyr yn bwysig i ni. Bydd modd i chi wylio&#8217;r holl raglenni wythnos nesaf ar-lein ar alw heb yr isdeitlau. O ran y rhaglenni rydych chi wedi eu nodi yn benodol, yn ogystal \u00e2 gwylio ar alw, bydd modd i chi weld Ochr 1: Gwobrau Selar heb isdeitlau ar S4C nos Fawrth 8 Mawrth am 10.05.<\/p>\n<p>Mae yna rhesymeg od iawn fan hyn. Os oes yna ddarpar wylwyr yn dymuno gwylio ond ddim yn gwybod fod isdeitlau ar gael neu ddim yn gwybod sut i&#8217;w troi nhw ymlaen &#8211; yna dwedwch wrthyn nhw sut i wneud! Sut mae rhoi isdeitlau wedi ei llosgi ar y sgr\u00een yn helpu darpar wyliwr ddysgu sut i droi isdeitlau ymlaen ar gyfer gwylio yn y dyfodol? A dyw&#8217;r darpar wylwyr ddim yn gwylio S4C cofiwch felly beth yw&#8217;r pwynt dangos yr isdeitlau? Prin yw&#8217;r bobl sy&#8217;n &#8216;syrffio sianeli&#8217; bellach gan fod pobl yn defnyddio EPG i ddewis beth i wylio.<\/p>\n<p>Mae yna hysbysebion &#8216;Bob&#8217; wedi ymddangos ar y sianel i hyrwyddo defnydd o isdeitlau ond cofiwch &#8211; fydd y darpar wylwyr ddim yn gweld hyn. Yr unig ffordd o&#8217;i cyrraedd yw hyrwyddo ar gyfryngau Cymreig eraill, er enghraifft drwy erthyglau mewn papurau newydd Cymreig neu hysbysebion ar BBC Wales neu ITV Wales. Felly mae&#8217;r &#8216;arbrawf&#8217; o isdeitlau gorfodol yn un hollol ddi-bwynt ac yn fwy tebygol o ddieithrio siaradwyr Cymraeg mamiaith, ail iaith a dysgwyr.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae S4C wedi datgan eu bod am ddangos isdeitlau gorfodol (h.y. wedi llosgi ar y sgr\u00een) wythnos nesaf fel ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o&#8217;r gwasanaeth isdeitlo. Mae hyn yn dilyn syniad dwl Tweli Griffiths ym mis Rhagfyr o roi isdeitlau &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2016\/02\/26\/isdeitlau-gorfodol-s4c\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[25,15],"tags":[],"class_list":["post-817","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-cymraeg","category-teledu"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/817","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=817"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/817\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":822,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/817\/revisions\/822"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=817"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=817"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=817"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}