{"id":715,"date":"2014-07-06T20:40:33","date_gmt":"2014-07-06T19:40:33","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=715"},"modified":"2014-07-06T20:40:33","modified_gmt":"2014-07-06T19:40:33","slug":"techflog-4","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2014\/07\/06\/techflog-4\/","title":{"rendered":"Techflog #4"},"content":{"rendered":"<p>Wna&#8217;i ganolbwyntio ar un peth yng nghofnod ola&#8217;r wythnos. Fe wnaethon ni lansio gwefan yn gynharach wythnos yma ond cael gwybod wedyn fod angen symud y blog o&#8217;r hen wefan.<\/p>\n<p>Heddiw fe ges i gopi o&#8217;r ffeiliau ar gyfer rhedeg y blog WordPress. Y peth syfrdanol cynta oedd fod y gronfa ddata MySQL dros 1GB o faint! Fel cymhariaeth, dim ond 3MB yw maint cronfa y blog yma.<\/p>\n<p>Fe ddaeth hi&#8217;n amlwg yn gyflym iawn beth oedd ar fai &#8211; roedd 100 o gofnodion yn y blog ond dros 400,000 o sylwadau! Ac ie, sbam oedden nhw gyd mwy neu lai. Mi fyddai wedi bod yn amhosib mynd drwy bob sylw i&#8217;w cymedroli felly roedd angen ffordd o ddileu sbam.<\/p>\n<p>O edrych drwy&#8217;r sbam roedd yna rhai allweddeiriau amlwg. Wna&#8217;i ddim rhestru nhw fan hyn ond mae nhw gyd yn enwau brand enwog, yn feddyginiaethau a nwyddau ffasiwn. Un peth da yw bo nhw gyd wedi eu cymedroli, ac erioed wedi eu cyhoeddi ar y blog. Dim ond tri sylw oedd wedi cyhoeddi a roedd rheiny yn edrych yn fwy dilys.<\/p>\n<p>Roedd yn gwneud synnwyr felly i ddileu yr holl sylwadau wedi eu cymedroli. Y broblem yw fod y gronfa ddata mewn fformat InnoDB, sy&#8217;n cadw cofnod trafodol (<em>transaction<\/em>) o bob gweithred a roedd hwnnw dal yn 1GB er fod maint y data lawr i 18MB. Does dim posib lleihau y log felly yr ateb oedd dympio&#8217;r tablau SQL, dileu a ail-greu y gronfa ddata a&#8217;i lwytho n\u00f4l fewn.<\/p>\n<p>A dyna ni, mae&#8217;r blog mewn gwell siap &#8211; ond sut i atal y sbam unwaith eto? Roedd y fersiwn WordPress yn eitha hen felly y peth cyntaf oedd uwchraddio i&#8217;r fersiwn diweddaraf &#8211; mae hynny yn bwysig o ran diogelwch beth bynnag. Yr ail beth oedd gosod y sylwadau i gau ar \u00f4l 60 diwrnod.<\/p>\n<p>Y trydydd oedd gosod ategyn gwrth-sbam. Mae Akismet yn dod fel rhan o feddalwedd WP ond mae angen i flogiau masnachol dalu am y gwasanaeth. Dwi wastad wedi defnyddio <a href=\"https:\/\/code.google.com\/p\/spam-karma\/\">Spam Karma <\/a>sy&#8217;n gweithio&#8217;n dda ond ddim yn cael ei ddatblygu rhagor. Posibilrwydd arall yw <a href=\"http:\/\/antispambee.com\/\">Antispam Bee<\/a> sy&#8217;n ategyn Almaenaidd a dwi am roi cynnig ar hwn cyn bo hir.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Wna&#8217;i ganolbwyntio ar un peth yng nghofnod ola&#8217;r wythnos. Fe wnaethon ni lansio gwefan yn gynharach wythnos yma ond cael gwybod wedyn fod angen symud y blog o&#8217;r hen wefan. Heddiw fe ges i gopi o&#8217;r ffeiliau ar gyfer rhedeg &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2014\/07\/06\/techflog-4\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[28,5],"tags":[],"class_list":["post-715","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwaith","category-technoleg"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/715","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=715"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/715\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":719,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/715\/revisions\/719"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=715"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=715"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=715"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}