{"id":704,"date":"2014-07-01T20:41:06","date_gmt":"2014-07-01T19:41:06","guid":{"rendered":"http:\/\/da.fydd.org\/blog\/?p=704"},"modified":"2014-07-01T21:50:18","modified_gmt":"2014-07-01T20:50:18","slug":"techflog-1","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2014\/07\/01\/techflog-1\/","title":{"rendered":"Techflog #1"},"content":{"rendered":"<p>Dyma ymgais ar gyfres o gofnodion am greu, datblygu a cynnal gwefannau o fy mhrofiad ddydd i ddydd. Wnai drio esbonio pethau yn syml ond weithiau wnai gofnodi mwy o fanylion technegol (os oes diddordeb). Dwi&#8217;n gweithio fel gweinyddwr systemau i Imaginet ond fel gyda pob cwmni bach dwi&#8217;n gwisgo sawl het &#8211; a mi fydd hyn yn dod yn amlwg.<\/p>\n<p>At heddiw felly. Roedd darn mawr o waith i fynd yn fyw ar gyfer cwmni rheilffyrdd <a href=\"http:\/\/www.southernrailway.com\/\">Southern<\/a>. Mae ganddyn nhw system cardiau clyfar i deithio ar y tr\u00ean. Cyn hyn roedd yn bosib prynu tocynnau tymor drwy adran o&#8217;r wefan a roedd hynny yn cael ei drosglwyddo i&#8217;r cerdyn wrth gyffwrdd y g\u00e2t tocynnau yn yr orsaf. Y darn nesaf o waith oedd ychwanegu tocynnau &#8216;talu wrth fynd&#8217; a mae&#8217;r gwaith wedi cymeryd misoedd i ddatblygu a phrofi.<\/p>\n<p>Roedd yn rhaid cau y porth cardiau clyfar drwy&#8217;r dydd i wneud y newidiadau. Fe wnes i sgrifennu sgript fase&#8217;n gwneud hyn yn awtomatig am 6 y bore er mwyn rhoi neges i ddefnyddwyr y wefan. Yn anffodus roedd yn rhaid i gyd-weithiwr godi yn gynnar i wneud yn siwr fod popeth wedi gweithio! Mae&#8217;r porth cardiau yn gymharol syml am ei fod wedi ei adeiladu ar ben gwasanaeth gwe (<em>web service<\/em>) gan gwmni arall, sy&#8217;n darparu systemau cardiau clyfar i ran fwyaf o&#8217;r diwydiant teithio. Er mwyn cwblhau&#8217;r gwaith roedden nhw yn diweddaru eu systemau yn ystod y bore.<\/p>\n<p>Yna yn y prynhawn roedden ni yn ryddhau y diweddariad i&#8217;r wefan a&#8217;i brofi tu \u00f4l y llenni. Roedd ychydig o broblemau i ddechrau ond nid o&#8217;n ochr ni. Fe wnaeth y cleient wedyn wneud eu profion nhw i sicrhau fod e&#8217;n barod i fynd yn fyw. Erbyn 7pm o&#8217;n i adre a fe ges i&#8217;r ebost i&#8217;w roi yn fyw a fe wnes i agor y porth eto.<\/p>\n<p>Roedd hynny tua 10% o fy ngwaith heddiw. Be arall wnes i? Mae fy nghyd-weithiwr i ffwrdd ar wyliau (wedi bod yn Glastonbury) felly roeddwn i ar y ddesg gymorth, yn ateb neu ddidoli ticedi newydd, ateb ebost a cymryd galwadau ff\u00f4n. Ac ar ben hynny, mae angen cefnogi&#8217;r datblygwyr yn fewnol, drwy ryddhau diweddariadau i&#8217;r gwefannau profi a byw. A roedd gen i waith fy hun i wneud&#8230; ond dyna ddigon am heddiw.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dyma ymgais ar gyfres o gofnodion am greu, datblygu a cynnal gwefannau o fy mhrofiad ddydd i ddydd. Wnai drio esbonio pethau yn syml ond weithiau wnai gofnodi mwy o fanylion technegol (os oes diddordeb). Dwi&#8217;n gweithio fel gweinyddwr systemau &hellip; <a href=\"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/2014\/07\/01\/techflog-1\/\">Continue reading <span class=\"meta-nav\">&rarr;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[28,5],"tags":[],"class_list":["post-704","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-gwaith","category-technoleg"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/704","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=704"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/704\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":708,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/704\/revisions\/708"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=704"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=704"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/da.fydd.org\/blog\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=704"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}